MAE’R Urdd yn falch o ddatgan bod 70,511 o blant a phobl ifanc wedi cystadlu mewn 208 o Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth eleni – a’r nifer uchaf o gystadleuwyr i’w cael yn ardal Eisteddfod yr Urdd 2024, sef Maldwyn.

Yn ogystal â diolch i’r cystadleuwyr, athrawon a’u hyfforddwyr, mae’r Urdd yn datgan diolch i’r 1,664 o stiwardiaid, 1,040 o gyfeilyddion a 832 o feirniaid sydd wedi rhoi o’u hamser i sicrhau llwyddiant yr holl Eisteddfodau lleol a rhanbarthol.

Meddai Bedwyr Fychan, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Maldwyn: “Mae’n wych clywed fod mwy o blant a phobl ifanc Maldwyn wedi cystadlu yn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth nag erioed o’r blaen, a mwy o gystadleuwyr eleni nag yn unrhyw ranbarth arall yng Nghymru at hynny.

“Pa well ffordd o brofi cyffro a brwdfrydedd ein hieuenctid i fod yn rhan o’r ŵyl fydd ar eu stepen drws?”

Mae disgwyl i dros 15,000 o blant a phobl ifanc i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 ym Meifod rhwng 27 Mai a 1 Mehefin.

Mynediad am ddim i deuluoedd incwm is i Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.

Mae tocynnau mynediad i’r maes ynghyd â’r sioe gynradd a ieuenctid yn mynd ar werth heddiw
Mae tocynnau mynediad i’r maes ynghyd â’r sioe gynradd a ieuenctid yn mynd ar werth heddiw (Submitted)

Diolch i gefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru mae’r Urdd yn falch o gadarnhau y bydd teuluoedd incwm is yn medru hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd unwaith eto eleni.

Mi fydd tocynnau mynediad i’r Maes ynghyd â’r Sioe Gynradd a Ieuenctid yn mynd ar werth ddydd Llun, 8 Ebrill a thocynnau cyw cynnar ar gael tan 10 Mai. Bydd modd i deuluoedd incwm is hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd fel a ganlyn:

  • Trwy gynllun Aelodaeth £1 yr Urdd. Bydd yr Urdd yn e-bostio teuluoedd sydd yn derbyn Aelodaeth £1 yr Urdd hefo manylion hawlio tocynnau.
  • Trwy wefan yr Urdd. Bydd angen i berson neu deulu nodi eu bod yn gymwys i un o’r meini prawf wrth hawlio tocynnau. Bydd manylion llawn y meini prawf ar gael ar y wefan.

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ariannol sy’n ein galluogi i gynnig mynediad am ddim i deuluoedd incwm is i Eisteddfod yr Urdd Maldwyn. Croesawyd 9,000 o unigolion o deuluoedd incwm is i’r ŵyl llynedd diolch i’r cynllun yma ac edrychwn ymlaen at gynnig Eisteddfod i Bawb unwaith eto eleni.

“Mae’r argyfwng costau byw yn rhoi straen mawr ar deuluoedd, ac rydym eisiau sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli allan ar brofiadau drwy’r Urdd. Fel Mudiad rydym yn cynnig Aelodaeth £1 yr Urdd a mynediad am ddim i Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth i deuluoedd ac unigolion sydd yn derbyn cefnogaeth talebau cinio ysgol am ddim, grant cynllun gwisg ysgol neu lwfans cynhaliaeth addysg 16-18 fel cymorth ariannol.”

Yn arwain at yr Eisteddfod, bydd yr Urdd hefyd yn cyd-weithio â Chyngor Sir Powys, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadu sydd yn cefnogi teuluoedd incwm isel i sicrhau fod y wybodaeth yn cyrraedd pobl gall elwa o’r cynllun.

Bydd modd prynu tocynnau neu hawlio tocyn mynediad am ddim i’r ŵyl o’r 8fed o Ebrill ymlaen drwy fynd i www.urdd.cymru/eisteddfod.