MAE Iolo Williams yn rhybuddio am y bygythiad cynyddol i fywyd gwyllt Cymru mewn cyfres newydd ar S4C.
Yn y gyfres Iolo: Natur Bregus Cymru, sy’n cychwyn ar S4C ar nos Iau 1 Mai am 9.00pm, mae’r naturiaethwr yn edrych ar drysorau bywyd gwyllt Cymru ac yn rhybuddio bod eu colli yn bosibiliad cryf os nad ydyn ni’n cydnabod effaith newid hinsawdd a dynoliaeth ar natur.
Mae’r gyfres newydd tair pennod yn archwilio rhai o’r cynefinoedd mwyaf eiconig ac unigryw sydd gennym ni yng Nghymru – gan gynnwys coedwigoedd glaw Celtaidd, gwlypdiroedd eang, ucheldir a ffriddoedd, ynysoedd – ac yn edrych ar rai o’r rhywogaethau sy’n byw ynddynt.
Ond law yn llaw â’u prydferthwch, mae bygythiad cynyddol newid hinsawdd a dynoliaeth yn parhau i effeithio byd natur Cymru.

Meddai: “Mae gennym ni gynefinoedd arbennig yng Nghymru - trysorau mae gweddill y byd yn cysylltu gyda ni.
“‘Da ni ddim eisiau colli’r trysorau yma ond mae hyn yn bosib yn ystod y blynyddoedd nesaf os nawn ni anwybyddu’r arwyddion clir o effaith dynoliaeth ar natur Cymru.”
Mae pob pennod yn canolbwyntio ar thema wahanol ond brys.
Mae’r bennod gyntaf yn edrych ar drysorau naturiol y wlad, gyda’r ail bennod yn archwilio rhywogaethau prinnaf Cymru sy’n gwneud eu gorau i ddal ymlaen er gwaethaf popeth.

Mae’r bennod olaf yn edrych ar effeithiau newid hinsawdd ac yn dadlau pam ei bod hi mor bwysig i gynnal, a hyd yn oed ychwanegu, at y cynefinoedd arbennig yma.
Mae’r gyfres yn cyfuno sinematograffi syfrdanol ag angerdd a phrofiad helaeth Iolo Williams fel darlledwr, awdur a naturiaethwr sydd wedi gweithio yn y maes cadwraeth ers dros 30 mlynedd.
Mae ei angerdd am fyd natur a bywyd gwyllt yn mynd yn ôl i’w blentyndod yn ardal Llanwddyn yn nyffryn Efyrnwy.
Ers hynny, mae Iolo wedi gweld cynefinoedd yn cael eu dinistrio a gostyngiad sylweddol yn niferoedd y rhywogaethau gwahanol.
Rhywogaethau megis y gylfinir, cornchwiglod, bras melyn, llygod bengrwn y dŵr a iâr fach yr haf prina’ Cymru, y fritheg frown – bron i gyd wedi mynd.
Yn y gyfres, mae Iolo yn dweud ein bod ni wedi colli dros 40 miliwn o adar ym Mhrydain ers y 1970au.
Ychwanegodd: “Mae’n rhestr enfawr a dweud y gwir – allwn ni daflu dwsinau o rywogaethau eraill at y rhestr yna hefyd. Pethau dwi wedi gweld yn prinhau neu’n diflannu yn gyfan gwbl.
“Dwi’n poeni’n fawr am y dyfodol ac yn enwedig pan dwi’n gweld patrymau tywydd yn newid achos cynhesu byd eang – pa effaith mae hwnnw’n mynd i gael? Gall storm enfawr neu cyfnod o sychder hir anfon rhywogaethau eraill i ebargofiant.”
Mae Iolo: Natur Bregus Cymru ar gael ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer o nos Iau 1 Mai ymlaen.
Mae'r gyfres wedi'i noddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.