MAE’R Urdd wedi cyhoeddi mai David Gwyn a Pamela John o Dreforys, Abertawe yw enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled, Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr Parc Margam a’r Fro 2025.
Yn cael eu hadnabod fel hoelion wyth y gymuned leol, mae’r pâr priod wedi ymroi yn ddiflino dros y degawdau i hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymreig ymhlith plant a phobl ifanc yr ardal.
Mae Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled yn gwobrwyo gwirfoddolwyr arbennig sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru, ac wrth ystyried cyfraniad David a Pamela, does dim syndod mai nhw yw’r enillwyr eleni.
Yn yr 1960au cynnar aethant ati i sefydlu Aelwyd yr Urdd Treforys yn Festri Capel y Tabernacl ac am y tro cyntaf roedd cyfle i bobl ifanc yr ardal ddod at ei gilydd yn lleol i gymdeithasu drwy’r Gymraeg.
Roedd y lle yn llawn bwrlwm a brwdfrydedd, ac o dan arweiniad David a Pamela bu’r aelwyd yn weithgar wrth gystadlu mewn Eisteddfodau’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â’r Ŵyl Gerdd Dant, ac yn cyflwyno Nosweithiau Llawen ar draws y de.
Y gyflwynwraig Heledd Cynwal gafodd y fraint o gyhoeddi’r newyddion yng Nghapel y Tabernacl, Treforys ddoe.
Helpu pobl ifanc y fro i “ddarganfod eu Cymreictod”
Ymhlith dros 100 o aelodau Aelwyd yr Urdd Treforys fyddai’n cyfarfod bob nos Wener oedd y cerddor a’r cyfansoddwr Geraint Davies (Mynediad am Ddim) a’r diweddar Dewi Pws, a nododd mewn un cyfweliad iddo “ddarganfod ei Gymreictod” yn bymtheg oed yn Aelwyd yr Urdd yng Nghapel Treforys.
Meddai’r cerddor Geraint Davies (a chyfansoddwr ‘Hei Mistar Urdd’): “Ro’n i’n bymtheg oed yn ymuno ag Aelwyd Treforys ym 1968 a does dim dwywaith i hynny newid fy mywyd i.
“David Gwyn a Pam John oedd wrth y llyw bryd hynny, cyn hynny ac am flynydde lawer wedi hynny gan greu corau, partïon dawnsio gwerin a chriwie Noson Lawen ymhlith y gore yng Nghymru, a hynny o ddeunydd crai digon anystywallt.
“Roedd drws agored i Gymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd mewn cyfnod lle'r oedd addysg uwchradd yn Abertawe yn hollol Seisnig. Dyma'r antidôt – trochfa o Gymreictod bob nos Wener ac ambell Sadwrn.
“Y bonws mawr oedd bod David yn meddu ar drwydded gyrru bws, alluogodd ni i deithio'n gyson at aelwydydd eraill, digwyddiadau cenedlaethol a mor bell â'r Alban ym 1970. Ehangu gorwelion. Ffindes i gymar oes yn yr Aelwyd honno, hefyd, a rwy’n un o nifer.
“Maen nhw dal wrthi flynyddoedd yn ddiweddarach – yn cynnal gweithgarwch Cymdeithas Gymraeg Treforys. Diolch a llongyfarchiadau David a Pam!”
Cyn ymddeol, roedd y ddau yn gweithio yn y byd addysg ac wrth eu boddau yn cefnogi a hybu ieuenctid y fro.
Roedd David yn Bennaeth yn Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las a Pamela yn athrawes yno. Bu’r ddau hefyd yn weithgar ar amrywiol bwyllgorau lleol, is bwyllgorau Eisteddfodol ac wrth godi arian yn lleol. Bu iddynt ddathlu eu Priodas Ddiemwnt haf diwethaf.
“Mae angen gwirfoddolwyr ac unigolion fel David a Pamela yn ein hardaloedd, sy’n hapus i roi o’u hamser prin i gefnogi ein hieuenctid. Mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy ac rydym ni’n ddiolchgar am eu gwaith diflino dros y degawdau.”
Bydd David a Pamela yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni arbennig ar Faes Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025. Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.