MAE wythnos iechyd meddwl yn digwydd eleni o 12 Mai tan 18 Mai a bydd S4C yn tynnu sylw at bwysigrwydd iechyd meddwl yn y gymuned amaethyddol.

Ar ddydd Llun, 12 Mai bydd ffilm fer arbennig gyda’r ffermwr Gareth Wyn Jones o’r enw Yr Argyfwng Iechyd Meddwl Mewn Ffermio yn sgwrsio a thrafod am bwysigrwydd iechyd meddwl ymhlith ffermwyr i’w gweld ar YouTube S4C, BBC iPlayer ac ar S4C Clic.

Yna am 9pm ar nos Lun bydd cyfres newydd o Ffermio yn dechrau gydag Alun Elidyr yn mart Caerfyrddin yn cyflwyno pwysigrwydd iechyd meddwl o fewn ein cymunedau gwledig.

Thema wythnos iechyd meddwl eleni ydi Cymuned gyda phawb yn cael eu hannog i ddathlu pŵer a phwysigrwydd cymuned.

Yn y rhaglen fer gyda’r ffermwr mynydd o Lanfairfechan, mae Gareth Wyn Jones yn cael trafodaeth emosiynol gyda ffermwyr ac eraill sydd yn gweithio o fewn y diwydiant anferth hwn.

Meddai Gareth: “Mae’n amser trist iawn yn y diwydiant, dwi ddim yn cofio gymaint o bobol mor isel, dwi’n cael negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud bod nhw’n teimlo bod gymaint o bwysau ar y diwydiant.”

Yn rhifyn gyntaf o’r gyfres Ffermio, rydym yn cwrdd â gwirfoddolwyr a gweithwyr elusen DPJ a sefydlwyd gan Emma O’Sullivan nol yn 2016 er cof am ei gwr Daniel Picton Jones. Ers hynny mae’r elusen wedi datblygu a blwyddyn nol fe lansiwyd lori Hywel Davies / DPJ sydd wedi ymweld â marchnadoedd a gwyliau amaethyddol di-ri’ yn cynnig cymorth.

Meddai Emma Morgans, Nyrs yr elusen: “Mae ffermwyr yn gyndyn mynd at y doctor, ond mae’n nhw’n dod i’r mart, felly feddylion ni bod angen i ni fynd ble mae nhw a thrio pontio rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol gan bod cyd-berthynas rhwng y ddau.

“Mae gyda ni stafell glyd o fewn y lori ble gall y ffermwyr ddod i fewn yn eu sgidie mwdlyd a’u overalls, dyw e’n gwneud dim gwahaniaeth i ni.”

Wrth i sefydliad DPJ nesáu at ei degfed blwyddyn mae Emma O’Sullivan o’r sefydliad yn falch cyhoeddi datblygiad newydd sef eu bod am fuddsoddi mewn ail lori a hwnnw wedi ei leoli yng ngogledd Cymru, meddai: “Mae’r sefydliad wedi tyfu yn fwy na ddychmygwyd gyda dros cant o wirfoddolwyr. Hoffwn i feddwl ein bod ni wedi creu diwylliant, ei bod hi’n dderbyniol siarad am y pethau hyn... a’u bod yn gwybod ble allan nhw gael help os oes ei angen.”

Mae pwysigrwydd siarad yn amlwg iawn yn y ddwy raglen, fel meddai Dr Nia Bowen, Swyddog Hyffroddiant DPJ ar Ffermio: “Mae wythnos fel hyn yn bwysig i godi ymwybyddiaeth ac i gael pobl i siarad, ac wrth iddyn nhw siarad eu bod nhw’n gofyn cwestiynau gan ddysgu mwy am y pynciau hyn a hefyd yn cael gwybod pa fath o help sydd mas ’na.”

Os am wybodaeth bellach ynghylch cymorth iechyd meddwl ewch i dudalen Cymorth S4C: Tudalen Cymorth Iechyd Meddwl S4C

Cofiwch ymweld â S4C Clic ac iPlayer yn ystod yr wythnos i weld rhaglenni eraill sydd yn nodi wythnos iechyd meddwl: Creisis; Moodswings, meds a Mared; Drych: Meddwl yn wahanol; Wyt ti'n Iawn (Hansh)