MAE Urdd Gobaith Cymru wedi penodi Ffion Gruffudd, cyn-bennaeth Caerdydd Ddwyieithog Cyngor Caerdydd, yn Gyfarwyddwr Adran Ieuenctid a Chymuned y mudiad.

Mae Ffion yn ymuno ag Uwch Dîm Rheoli’r Urdd er mwyn rhoi arweinyddiaeth strategol i adran sy’n cyflogi bron i 40 o swyddogion ledled Cymru, gan lywio datblygiad cenedlaethol rhaglenni ieuenctid a chymunedol sy’n cyrraedd miloedd o bobl ifanc.

Daw Ffion â dros ugain mlynedd o brofiad o arwain datblygiad y Gymraeg yng Nghaerdydd, gan gynnwys chwarae rhan flaenllaw yn sefydlu prosiect Cymraeg i Bawb, a ddatblygwyd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i hybu addysg Gymraeg ledled rhanbarth Caerdydd.

Yn ferch fferm o Gwrtnewydd, Ceredigion yn wreiddiol, mae Ffion hefyd yn aelod o ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg sy’n edrych ar ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn rhannau dwysedd is o Gymru a thu hwnt.

Meddai Ffion: “Dw i’n hynod angerddol dros yr iaith Gymraeg ac mae wedi bod yn greiddiol i fy ngwaith ers degawdau bellach. Mae sicrhau ei bod yn ffynnu yn parhau i fod yn flaenoriaeth gen i.

“Mae camu i’r rôl hon yn deimlad arbennig iawn. Mae’r Urdd yn sefydliad unigryw sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth greu cyfleoedd gwerthfawr i genedlaethau o blant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae’n anrhydedd cael cyfrannu at bennod nesaf ei stori.

“Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio gyda staff, gwirfoddolwyr, aelodau a phartneriaid i adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni eisoes, a sicrhau bod hyd yn oed mwy o blant a phobl ifanc yn elwa ar y cyfleoedd mae’r Urdd yn ei gynnig.”

Meddai Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis: Mae Ffion yn dod â chyfoeth o brofiad, egni a gweledigaeth i’r rôl, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld ei harweinyddiaeth yn adeiladu ar y gwaith gwych sydd eisoes yn digwydd ar lawr gwlad.”