Heddiw (Gwener, 19 Rhagfyr 2025) mae Urdd Gobaith Cymru yn croesawu cadarnhad o gyllid hanfodol gwerth £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ail-adeiladu pwll nofio Gwersyll yr Urdd Llangrannog – buddsoddiad fydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i un o gyfleusterau mwyaf poblogaidd y Gwersyll.
Agorwyd pwll nofio cyntaf Gwersyll Llangrannog yn yr 1970au ac mae wedi bod yn ganolog i brofiad miliwn o blant a phobl ifanc dros y degawdau. Yn ei hanfod mi fydd y prosiect newydd yn cynnwys:
- Adeiladu pwll newydd 10m x 20m mewn adeilad pwrpasol.
- Creu cyfleusterau newid newydd a hygyrch i bawb, gan gynnwys defnyddwyr cadair olwyn
- Gosod offer modern i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau carbon a chostau ynni, a gwella cynaladwyedd am y tymor hir.
Bydd y gwaith yn fodd o sicrhau darpariaeth ddibynadwy saith diwrnod yr wythnos y rhan helaeth o’r flwyddyn ar gyfer gwersyllwyr ynghyd â grwpiau cymunedol ac ysgolion, ac yn helpu cynnal dwy swydd llawn amser newydd yn ogystal â swyddi presennol.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae’r pwll nofio wedi bod yn rhan hanfodol o gynnig Gwersyll Llangrannog ers yr 1970au.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn darparu cyfleuster dibynadwy, saith diwrnod yr wythnos sy’n hyrwyddo iechyd a lles, yn creu swyddi newydd, ac yn gwneud y pwll yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn a’r rhai sydd â symudedd cyfyngedig.
“Trwy leihau ein hôl troed carbon, ac ehangu cyfleoedd ar gyfer mynediad i’r gymuned, bydd yr ailddatblygiad hwn yn darparu manteision parhaol i Langrannog a’r gymuned ehangach.
“Ar ran yr Urdd, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gefnogi ein gweledigaeth a’n helpu i barhau i gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc ledled Cymru.”
Gyda 100 o aelodau staff, a 60% ohonynt o dan 25 oed, Gwersyll Llangrannog yw’r cyflogwr trydydd sector fwyaf yng Ngheredigion. Mae arweinwyr gweithgareddau awyr agored y dyfodol hefyd yn cael eu meithrin yno drwy gynllun prentisiaethau. Yn ôl yr adroddiad diweddaraf ar werth economaidd yr Urdd, mae’r gwersyll yn cyfrannu £3.2m i’r economi leol a £4.5m i Gymru yn flynyddol.

Meddai Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll Llangrannog: “Sefydlwyd Gwersyll Llangrannog yn 1932 fel gwersyll parhaol cyntaf Urdd Gobaith Cymru, ac ers hynny, mae bron i ddwy filiwn o blant a phobl ifanc wedi creu atgofion yma – ac wedi dysgu, chwerthin a thyfu drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae’r datblygiad yma’n golygu y gallwn barhau â’r etifeddiaeth honno am genedlaethau i ddod. Nid ail-adeiladu pwll yw hyn yn unig; ni’n diogelu lle sydd wedi siapio bywydau ifanc a chymunedau ers bron i ganrif.”
Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, Jack Sargeant, a ymwelodd â Gwersyll Llangrannog ddoe: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfleusterau chwaraeon yn hygyrch, yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a bydd yr arian hwn yn helpu i sicrhau dyfodol y cyfleuster lleol pwysig iawn hwn.
“Mae chwaraeon yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni ein huchelgeisiau Cymraeg 2050. Bydd ein buddsoddiad yn y cyfleusterau yn Llangrannog yn cryfhau gallu'r ganolfan i gynnig mwy o gyfleoedd anffurfiol i filoedd o bobl ifanc ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg. Bydd hefyd yn creu swyddi ac yn darparu cyfleoedd uwchsgilio mewn rhanbarth sy'n hanfodol i gynaliadwyedd y Gymraeg.
“Bydd y cyllid sy'n weddill yn darparu gwelliannau ystyrlon i gyfleusterau ledled y wlad – o gaeau pêl-droed ar lawr gwlad i leoliadau beicio elitaidd. P'un a yw'n blentyn sy'n dysgu nofio yng Ngheredigion, pêl-droediwr ifanc sy'n hyfforddi yng Nghasnewydd, neu glwb tenis lleol yn lleihau ei filiau ynni, bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chwaraeon ledled y wlad.”

.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.