Y LLYNEDD, derbyniodd Gai Toms wobr nodedig gan gylchgrawn Y Selar am ei gyfra-niad arbennig i gerddoriaeth Gymraeg.

Eleni – mae’n cyhoeddi llyfr o’r atgofion sy’n codi o’i ganeuon.

Mae’r gyfrol yn deyrnged i’r ysbryd arbennig sydd yng nghysgod y llechan yn Stiniog.

Chafodd Gai Toms erioed wersi canu na gwersi gitâr, ond mae’i gyfraniad i’r sin gerddoriaeth Gymraeg ers y 1990au yn syfrdanol.

Fel canwr-gyfansoddwr, mae’i gerddoriaeth yn amrywio o roc a ska i arddulliau gwerin ac amgen, a’i eiriau yr un mor bwysig â’i alawon, yn llawn ystyr a myfyrdod, a’i ymrwymiad i themâu cynaliadwyedd, cymuned, a’n lle fel Cymry yn y byd.

Gai yn derbyn ei lyfr
Gai yn derbyn ei lyfr (Y Lolfa)

Cawn ei hanes yma drwy ganeuon sy’n bwysig iddo: ei fagwraeth yn Nhanygrisiau, ei ddyddiau coleg, ei daith gerddorol gyda’r grwpiau Anweledig a Brython Shag, ac yn unigol dan yr enw Mim Twm Llai a’i enw ei hun.

Aeth ambell gân a’i fryd wrth iddo dreulio cyfnodau’n cefnogi ac yn cyfrannu at lwyddiant bandiau eraill hefyd.

Wrth fyfyrio ar y profiadau sydd wedi llywio’i daith, mae’n rhannu’r teimladau a’r weledi-gaeth sy’n gefndir i rai o’i ganeuon mwyaf adnabyddus, ac os crafwch o dan wyneb y caneuon hynny cewch gipolwg ar ei fywyd.

Cynnwys : Y Caneuon sy’n arwain yr atgofion…

1. Dawns y Glaw

2. Graffiti Cymraeg

3. Gwallt Mor Ddu

4. Tafarn yn Nolrhedyn

5. Clwb y Tylluanod

6. Llenwi fy Llygid

7. Llys Ifor Haul

8. Y Pen-blwydd

9. Rhwng y Llygru a’r Glasu

10. Hwiangerdd Esperanza

11. Cân y Dewis

12. Teyrnged i’r Crys T

13. Gwalia

14. Palmant Aur y Migneint

15. Agorydd

16. Coliseum

Sesiynau Lansio – bydd gai yn sgwrsio ac yn canu rhai o’i ganeuon

Gŵyl Arall Caernarfon: am 1.30 yng ngardd Palas Print ar ddydd Sadwrn, 12 Gorff

Sesiwn Fawr Dolgellau: am 3 o'r gloch yn Nhŷ Siamas ar ddydd Sadwrn, 19 Gorff