MAE’R gyfres boblogaidd Priodas Pum Mil yn ôl – ac yn dathlu ei 10fed gyfres! Mae Boom Cymru TV Ltd ac S4C yn chwilio am gyplau o bob cwr o Gymru sydd eisiau priodas yn 2026 wedi’i threfnu gan eu teulu a’u ffrindiau, a hynny am £5,000 yn unig.

Bydd y cyplau lwcus yn rhoi eu ffydd yn nwylo’u hanwyliaid i drefnu’r diwrnod mawr, dan arweiniad medrus y ddau gyflwynydd profiadol, Emma Walford a Trystan Ellis-Morris. Gyda bron i 60 o briodasau eisoes yn y bag, mae’n saff dweud bod y cyplau mewn dwylo diogel!

Yn y gyfres ddiwethaf, gwelsom briodasau arbennig mewn llefydd fel Aberporth, Llanllyfni, Pwllheli, Rhydaman, Abertawe a Bangor felly rydym yn awyddus i glywed gan gyplau o unrhyw ardal yng Nghymru.

Meddai Emma: “Mae pob priodas wedi bod yn unigryw ac yn gofiadwy, ond mae ambell her wir wedi sefyll allan dros y blynyddoedd – priodas yn Vegas, priodas ar gopa’r Wyddfa, priodas dan ddaear, dyweddïad mewn hofrennydd, a hyd yn oed priodas ar draeth, yn fyw ar S4C.

“Ni’n agored i unrhyw thema, ni wedi gweld popeth o’r Gorllewin Gwyllt, i themâu Eidalaidd, pêl-droed, darts, amaeth a llawer, llawer mwy!”

Yn ôl Trystan: “Mae wir wedi bod yn fraint cyfarfod â’r holl bobl sydd wedi cymryd rhan yn y gyfres dros y blynyddoedd ac mae wedi bod yn lot o hwyl cynnwys sawl cameo arbennig hefyd – George Hughes o C’mon Midffild, y môr-leidr Ben Dant, a hyd yn oed Black Lace a Meat Loaf (dynwaredwr wrth gwrs)!

“Mae wedi bod yn ddegawd o gariad, chwerthin, dagrau, cyfeillgarwch, crwydro – ac wrth gwrs, tipyn o haglo. A ‘da ni methu aros i weld beth sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol. Ymlaen i’r 10 nesaf.”

Ewch i’r wefan i gwblhau ffurflen gais: www.priodas.cymru neu gysylltwch â Boom Cymru TV Ltd ar 02922 450 000.

Gallwch ddal i fyny a’r gyfres ddiweddaraf o Priodas Pum Mil ar S4C Clic a BBC iPlayer.