AR ddiwrnod Santes Dwynwen, mae S4C wedi rhyddhau delweddau o chalet newydd ail gyfres Amour & Mynydd.

Bydd y gyfres garu realaeth boblogaidd yn dychwelyd i S4C ar 10 Chwefror, gan addo dôs arall o ddrama, emosiwn a throeon annisgwyl.

Ar 3 Chwefror, cyn i’r gyfres ddechrau’n swyddogol, bydd rhaglen arbennig Entrée Amour & Mynydd yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod.

Yn dilyn llwyddiant a’r ymateb brwd i’r gyfres gyntaf, bydd criw newydd o unigolion sengl yn cael cyfle unigryw i ddod o hyd i gariad – ac efallai darganfod mwy amdanynt eu hunain ar hyd y ffordd. Yn gefnlen i’r cwbl fydd golygfeydd syfrdanol yr Alpau Ffrengig.

Mae’r chalet moethus, sy’n newydd eleni yn cynnwys pwll nofio dan do sydd gyda siglen uwchben y dŵr, sawna, ardal ymlacio, campfa, ystafell chwaraeon, llefydd tân clud, bar, ystafell ddirgel, ramantus) ac hyd yn oed llithren sy’n cysylltu’r lloriau.

Bydd criw newydd o unigolion sengl yn ymgasglu yn y chalet
Bydd criw newydd o unigolion sengl yn ymgasglu yn y chalet (S4C)

Unwaith eto, y cyflwynydd Elin Fflur fydd yn arwain y criw drwy’r profiad, eu hannog i wynebu penderfyniadau a chyflwyno ambell sypreis.

Yn ôl Elin: “Mae’r gyfres yma’n brysur, yn symud yn gyflym, yn gyffrous. Mae ‘na twists bach difyr yn digwydd. Mae’r castio’n wych – mae’r criw wir wedi prynu fewn i’r syniad o pam oedden nhw yna, a maen nhw’n creu adloniant arbennig iawn.”

Dros gyfnod o ddeuddeg niwrnod, bydd yr unigolion yn cydfyw yn chalet Amour & Mynydd, sydd, meddai Elin, “yn le wirioneddol anhygoel”.

Yn y rhaglen Entrée Amour & Mynydd ar 4 Chwefror, bydd y ddeuawd ddoniol a ‘super-ffans’ y gyfres, Mari Beard a Meilir Rhys Williams, yn cael cyfle i fusnesu yn y chalet yn ogystal â sgwrsio gydag ambell aelod o’r cast, a chyflwynydd y gyfres, Elin Fflur.

Mae'r chalet yn cynnwys pwll nofio dan do sydd gyda siglen uwchben y dŵr
Mae'r chalet yn cynnwys pwll nofio dan do sydd gyda siglen uwchben y dŵr (S4C)

Eleni eto, bydd y fodcast wythnosol, Après: Amour & Mynydd ar sianel YouTube S4C, S4C Clic a BBC iPlayer, lle bydd Mari Beard a Meilir Rhys Williams yn trin a thrafod y diweddaraf o amour yr Alpau. Bob wythnos, bydd y ddau, sy’n adnabyddus am eu podcast hwyliog ‘Cwîns’ yn cael cwmni gwesteion arbennig i hel clecs, dadansoddi a rhannu sylwadau am y bennod.

Meddai Mari: Mae rhaglen realiti yn rywbeth poblogaidd iawn iawn ta beth, ond i gael un Cymraeg, wrth gwrs fod o’n mynd i fod yn boblogaidd, a fi’n meddwl bod pobl yn cael eu tynnu i fewn i straeon sy’n dod o raglenni realiti. Mae na ddigonedd o twists a turns yn y gyfres yma sydd ond yn mynd i orfodi i’r straeon yma ddod allan mwy.”

Meddai Meilir:“Mae ‘na elfen fwy cystadleuol i’r gyfres yma a dwi’n meddwl bod hi’n ddatblygiad llwyddiannus iawn o gyfres un, yn y ffaith bod bob dim yn fwy. Mae’r chalet yn fwy, mae’r cast yn fwy, ac mae’r cynnwys yn mynd i fod yn fwy amrywiol o ran drama, serch, a lleoliad newydd. Felly mae o i gyd yn ffresh, ond yn cadw naws y gyfres gynta’.”

A bydd digonedd i edrych ymlaen ato gyda’r fodcast Après: Amour & Mynydd hefyd.

Ychwanega Meilir: “O ran y fodcast – bydd mwy o westeion ar y soffa ym mhob pennod, mwy o drafod, a mwy o benodau (felly mae ‘na fwy o waith gossipio).

“Mewn cyfresi realaeth, rhan o’r hwyl ydi bod pawb yn gwylio’r un peth ac yn cael trafod wedyn – felly mae’r rhaglenni Après yn golygu bod y sgwrs yn parhau ar ôl y rhaglen a bod y gwylwyr yn teimlo’u bod nhw’n cael bod yn rhan o’r sgwrs yna hefyd.”