Heddiw, lansiodd Cymdeithas Cymru-Ariannin wefan newydd sbon danlli ar adeg pan laniodd y Cymry cyntaf ym Mhorth Madryn, Yr Ariannin ar 28 Gorffennaf yn 1865.

Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu yn 1939 ac mae wedi bod yn ddolen gyswllt bwysig rhwng y ddwy wlad ers hynny.

Prif amcan y Gymdeithas yw bod yn ddolen gyswllt bwysig rhwng Cymru a'r Ariannin.

Mae'r Gymdeithas yn gyfrifol am gynnal Gŵyl y Glaniad yng Nghymru yn flynyddol ac eleni fe'i cynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf yng Nghlwb Golff Radur, Caerdydd.

Yn nhalaith Chubut, Y Wladfa mae Gŵyl y Glaniad yn ŵyl gyhoeddus a gynhelir ar 28 Gorffennaf a bydd cannoedd o bobl yn mynd i'r capeli a'r neuaddau i gael te Cymreig.

Mae'r wefan yn ffrwyth llafur 14 mis o waith gwirfoddol yn cydlynu, creu, addasu, golygu a chwynnu testun dan arweiniad Rhys Llewelyn o Nefyn sy'n aelod o bwyllgor Cymdeithas Cymru-Ariannin ers dwy flynedd.

Dywedodd Rhys: “Er ei bod hi'n wefan sy'n adrodd hanes y Gymdeithas, mae yna bob math o wybodaeth mewn 7 prif adran gan gynnwys llwyth o ddeunydd ar gyfer ysgolion; gwybodaeth ar gyfer pobl sydd eisiau mynd i'r Wladfa i addysgu'r Gymraeg ac mae yna hyd yn oed luniau arwyddion o dan 'Adnoddau'.

“Bu'n fynydd o waith ac mi gymerodd 14 mis i gydlynu'r gwaith sef yr union fisoedd y bues i'n gweithio yn yr Ariannin fel athro Cymraeg rhwng 2000-2001.

“Mae fy nyled yn fawr i'r 21 o bobl o Gymru sydd wedi fy helpu efo rhai agweddau o'r wefan a 12 o bobl o'r Wladfa sef cyfanswm o 33 o bobl i gyd o bob pegwn i'r byd!”

Ategodd Menna Edwards, Llywydd y Gymdeithas, “Mae'r wefan yn cynnwys degau o gyhoeddiadau pwysig megis Llais yr Andes, Clecs Camwy heb anghofio 'Dadorchuddio Patagonia', sef colofn rheolaidd y bues i'n cyfrannu iddi i'r Cymro 25 mlynedd yn ôl tra allan yna yn athrawes ar blantos Gaiman, Dolafon a chriw meithrin Trelew.

“Bydd y wefan newydd hon yn ffynhonnell wybodaeth bwysig i bawb sydd eisiau dysgu mwy am Y Wladfa a'i phobl, ac hefyd 'Cynllun yr Iaith Gymraeg' sy'n anfon athrawon i addysgu draw ers 1997.”

Ychwanegodd Cadeirydd y Gymdeithas, Eluned Grandis: “Mae yna wybodaeth am Ganghennau'r Gymdeithas led-led Cymru ar y wefan yn ogystal â chyngor i bobl sy'n teithio i'r Ariannin a gwybodaeth am bobl o Gymru sydd wedi cael eu hysbrydoli gan y Wladfa dros y blynyddoedd.

“Mae hi hefyd yn cynnwys nifer o glipiau fideo o Youtube am yr ysgolion yno, am ddigwyddiadau fel Gŵyl y Glaniad, am y gefeillio rhwng trefi a chlip o'r gân 'Patagonia' enillodd Cân i Gymru yn 2023! Mae yna hefyd wybodaeth ddefnyddiol am becynnau addysgiadol ar gyfer dysgu Sbaeneg Patagonia. Mae wir yn wefan arbennig.”

Y canwr gwerin poblogaidd Gwilym Bowen Rhys, fu'n yn y Wladfa y llynedd yn ffilmio'r rhaglen 'Gwladfa' a ddangoswyd ar S4C yn mis Ionawr eleni, sydd wedi lansio'r wefan yn swyddogol ar ran y Gymdeithas.

Dywedodd Gwilym: “Llongyfarchiadau i Gymdeithas Cymru-Ariannin am greu'r wefan hon sy'n adnodd gwerthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb yn y gymuned Gymreig yn Chubut, ei hanes, a'i gweithgaredd heddiw, ac hefyd i Archentwyr sydd am gynnal perthynas â Chymry..”