LANSIWYD Gwobr Goffa arbennig gan S4C a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar faes Y Sioe Frenhinol heddiw er cof am y ffermwr a'r cyflwynydd adnabyddus, Dai Jones Llanilar.
Yn ganwr talentog, yn ffermwr o fri ac yn gyflwynydd rhaglenni amaeth ac adloniant yng Nghymru am dros hanner can mlynedd, roedd Dai Jones yn gymeriad poblogaidd ledled y wlad. Bu farw yn 78 oed yn 2022.
Bydd Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar yn rhoi cyfle i berson ifanc i weithio â’r cwmnïau cynhyrchu aml-gyfrwng Telesgop (Ffermio) a Slam (Cefn Gwlad/Y Sioe) i ddatblygu syniad gwreiddiol i fod yn eitem gyflawn, a fydd wedyn yn cael ei darlledu ar blatfformau S4C.
Yn ôl Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C, bydd y wobr yn agor y drws i dalent y dyfodol: “Roedd S4C yn awyddus i gynnal Gwobr Goffa er cof am Dai, er mwyn cadw’r cof yn fyw am ei gyfraniad amhrisiadwy i fyd amaeth, a’r byd darlledu yng Nghymru. Roedd e wir yn un o ddarlledwyr mwyaf talentog teledu Cymru.
“Gobeithiwn y bydd y Wobr hon yn agor y drws at fyd darlledu i bobl ifanc, gan fagu a meithrin talent y dyfodol, a sicrhau ein bod yn parhau i ddod â chynnwys ffres a pherthnasol o gefn gwlad Cymru i’r sgrîn.”
Dywedodd Yr Athro Wynne Jones, Cadeirydd Bwrdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru: “Mae’r Gymdeithas yn awyddus iawn i gael gwobr arbennig i bobl ifanc sydd â brwdfrydedd dros sylwebu ar faterion gwledig ac ar bwysigrwydd Cymru wledig. Mae teulu Dai yn gefnogol iawn ac yn falch o weld y cyfryngau a’r Sioe Frenhinol yn cydweithio i greu’r cyfle arbennig hwn i'r genhedlaeth nesaf o gyflwynwyr a gweithwyr yn y maes. Bydd y wobr hon yn sicrhau bod gwaddol arbennig Dai yn parhau am flynyddoedd i ddod.”
I gystadlu am y Wobr, mae gofyn i unigolion o dan 30 oed gyflwyno syniad yn ymwneud â chefn gwlad neu amaethyddiaeth i gwmni Telesgop cyn 1 Hydref eleni. Gofynnir hefyd iddyn nhw ’sgwennu ychydig am eu hunain a pham eu bod yn credu mai nhw ddylai dderbyn y wobr.
Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu syniadau i banel fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, tîm rhaglenni Ffermio a Chefn Gwlad, ac S4C.
Bydd yr enillydd yn cael eu cyhoeddi yn y Ffair Aeaf – 24ain a’r 25ain o Dachwedd eleni, yn Llanelwedd.
Er mwyn cyfle i ennill y wobr, cyflwynwch gais ddim mwy nag un tudalen A4 yn nodi eich syniad chi am eitem yn ymwneud â chefn gwlad ac amaethyddiaeth, ac anfonwch drwy ebost at: [email protected] erbyn 23:59 ar 1af o Hydref 2025.
I weld y telerau ac amodau llawn a mwy o wybodaeth, ewch i: https://www.s4c.cymru/cy/ffeithiol/ffermio/post/gwobr-goffa-dai-jones-llanilar
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.