“HEB os, Llwyd Owen yw ein llenor mwyaf lliwgar” – dyna eiriau’r cyflwynydd teledu a radio Huw Stephens wrth drafod Bechgyn Drwg am Byth, nofel newydd yr awdur o Gaerdydd sydd newydd ei chyhoeddi gan wasg y Lolfa.

Mae Llwyd Owen yn awdur toreithiog a phoblogaidd sydd wedi cyhoeddi nifer o nofelau. Ac fel ei storïau eraill mae hon yn daith afaelgar yn llawn cysgodion a chyfrinachau.

Ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, mewn gwlad debyg iawn i’r Gymru gyfoes, mae’r cyn-filwr Rob Evans yn dychwelyd i Gerddi Hwyan, tref ei febyd i fynychu angladd ei dad.

Trwy ei frawd, Ceri, daw i wybod bod y dafarn deuluol mewn trafferthion dybryd, diolch i arferion betio’r penteulu.

Gyda mis i ad-dalu’r ddyled hanner can mil o bunnoedd, rhaid i’r brodyr ddod o hyd i ddatrysiad a hynny ar frys.

Mae cynllun yn cael ei greu ac mae Rob yn edrych mlaen i ailafael yn ei berthynas â Jen a Sam, ei fab, ond dyma ddechrau problemau’r brodyr.

Mae’r awdur profiadol yn cyflwyno’r cyfan yn ei arddull unigryw, gan ddadlennu’r gwir trwy blethu’r straeon cyfochrog, a chyrraedd uchafbwynt gwaedlyd a fydd yn sicr o foddhau darllenwyr hen a newydd i nofelau Llwyd Owen.

Mae Bechgyn Drwg Am Byth eisoes dal sylw Ffion Dafis, cyflwynydd rhaglen am y byd celfyddydol ar BBC Radio Cymru, “Dim ond Llwyd fasa’n gallu creu symffoni drwisiol, greulon, law cariad ac emosiwn pur.”

“Mae Llwyd Owen yn awdur cynhyrchiol a safonol sydd wedi ysgrifennu toreth o nofelau difyr a deallus,” meddai’r awdur Arwel Vittle yng nghylchgrawn Barn.

“Unwaith eto mae’n taro deuddeg gyda Bechgyn Drwg Am Byth – stori gyffrous, ffraeth sy’n darllen yn rhwydd dros ben.”

Yn ogystal â’i nofelau niferus, mae Llwyd yn cyflwyno podlediad wythnosol o’r enw Ysbeidiau Heulog (@YsbeidiauHeulog | Linktree) ble y gellir ei glywed yn trafod y byd a’i bethau gyda’i ffrind Leigh Jones a llwyth o westeion arbennig. Gallwch ddilyn yr awdur ar Twitter (@Llwyd_Owen) ac Instagram (llwyd_owen).

Brodor o Gaerdydd yw Llwyd, ac mae’n byw gyda’i deulu yn ardal Rhiwbeina.

Enillodd ei ail nofel, Ffydd Gobaith Cariad, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2007 a chyrhaeddodd ei nofela, Iaith y Nefoedd (2019), restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2020. Mae’n gweithio fel cyfieithydd pan nad yw’n ysgrifennu ffuglen.

Mae Bechgyn Drwg Am Byth gan Llwyd Owen ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).