BYDD tref Caernarfon yn croesawu un o ddigwyddiadau diwylliannol pwysicaf Cymru ar ddydd Sadwrn, 14 Tachwedd yn Galeri, wrth i Ŵyl Cerdd Dant ymweld â'r dref am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.
Mae Cyngor Gwynedd yn falch o gefnogi'r ŵyl drwy Gronfa Datblygu Digwyddiadau Gwynedd, gan gydnabod cyfraniad pwysig y digwyddiad at ddiwylliant, treftadaeth a'r economi leol.
Yr Ŵyl Cerdd Dant yw'r ŵyl gystadleuol undydd fwyaf o'i math yng Nghymru. Mae'n dathlu cyfoeth traddodiadau a threftadaeth Gymreig drwy ystod eang o gystadlaethau a pherfformiadau gan gynnwys Cerdd Dant, Canu Gwerin, Llefaru, Dawnsio Gwerin, cystadlaethau'r delyn a barddoniaeth.
Disgwylir i gannoedd o gystadleuwyr, cefnogwyr ac ymwelwyr deithio i Gaernarfon ar gyfer y digwyddiad, gan roi hwb i'r economi leol a rhoi’r cyfle i arddangos yr ardal leol i bobl o bob cwr o Gymru.
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned: "Mae'n bleser mawr gweld Gŵyl Cerdd Dant yn dychwelyd i Gaernarfon ar ôl tair degawd. Mae'r ŵyl yn dathlu rhai o elfennau pwysicaf ein diwylliant a'n treftadaeth Gymreig, ac rydym yn falch iawn bod Cyngor Gwynedd wedi gallu cefnogi'r digwyddiad drwy'r Gronfa Datblygu Digwyddiadau Gwynedd.
"Mae digwyddiadau fel hyn yn chwarae rhan allweddol wrth gryfhau ein cymunedau, hyrwyddo'r Gymraeg a denu ymwelwyr i'r ardal. Edrychwn ymlaen at groesawu'r cystadleuwyr, y perfformwyr a'r ymwelwyr i Gaernarfon ac i Wynedd."
Dywedodd Dafydd Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant 2026: “Yn dilyn llwyddiant diamheuol Gŵyl Aberystwyth a’r Fro'r llynedd, mae’r bar wedi ei osod yn uchel i ni yng Nghaernarfon eleni, ond dwi’n grediniol, gyda’r criw gweithgar sydd wedi dod at ei gilydd, y byddwn yn gallu sicrhau Gŵyl i’w chofio.
“Cyn 1996 dydi’r Ŵyl ddim wedi ymweld â’r ardal hon ers yr Ŵyl gyntaf un yn Y Felinheli yn 1947! Mae’n hen bryd, felly, i ni roi’r croeso cynhesaf posib i bawb i Wynedd, i Dre’r Cofi, ac i Galeri a Doc Fictoria.
“‘Cerdd dant yn cyrraedd y doc’. Dim fi biau’r llinell, ond rhywbeth ddywedodd Y Prifardd Rhys Iorwerth ar ôl derbyn y gwahoddiad i gyfansoddi’r Cywydd Croeso, ac ar y doc, rydym yn hynod ffodus fod Galeri, gyda’i hadnoddau penigamp, wedi cytuno i roi cartref i’r Ŵyl eleni.
“Caernarfon, y dref sy’n hynod hanesyddol, yn morio hi’n forwrol, yn frith o feirdd ac yn gyfoeth o gerddoriaeth.
“Mae’r dref yn fwrlwm o weithgareddau drwy’r flwyddyn a bydd yr Ŵyl Gerdd Dant yn sicr yn goron fendigedig ar ddigwyddiadau eleni.
“Mae’r Ŵyl, yn naturiol, yn mynd ar ofyn trigolion yr ardal am nawdd, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth hael gan Gyngor Gwynedd, y Cyngor Tref a Chynghorau Cymuned Arfon, yn ogystal â Hwb Caernarfon a nifer o fusnesau lleol.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar am y cyfraniadau gan unigolion yr ardal ac ymdrech y rhai sydd wedi trefnu digwyddiadau codi arian.
“Mae’n bwysig iawn fod y dref i gyd yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r Ŵyl ac rydym yn ddiolchgar iawn i Ysgol Maesincla am roi cartref i’r rhagbrofion, i Theatr Seilo am roi eu hadnoddau ar gyfer gwrandawiadau’r corau, ac i Ŵyl Fwyd Caernarfon am gael cydweithio ar gyfer y ddarpariaeth bwyd.
"Ar nos Wener hefyd bydd cyfle i ymlacio cyn y cystadlu mewn Sesiwn Werin yng ngwesty’r Celtic Royal, gyda Gwilym Bowen Rhys ac Acordions dros Annibyniaeth - mae'r mynediad am ddim ac mae croeso i bawb!
“Felly croeso cynnes iawn i bawb a mwynhewch ein traddodiadau gwerin yn y dref Gymreiciaf yn y byd!
“Efo heli’n gyfeiliant, cyrraedd y doc mae cerdd dant!’.”
Gall ymwelwyr sydd yn bwriadu mynychu'r ŵyl gael gwybodaeth ddefnyddiol am ymweld â’r ardal drwy wefan Eryri Mynyddoedd a Môr : Ymweld ag Eryri | Eryri
Mae rhaglen lawn y dydd ar gael ar wefan Cerdd Dant: Cartref | Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
Am fwy o wybodaeth, ac i gysylltu efo’r trefnwyr, ebostiwch: [email protected]






Comments
We've recently changed our login process. If you have an account for commenting, you will need to re-register on the login window.
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.