YR wythnos hon mae nofel ddoniol a drewllyd ar gyfer plant cynradd hŷn yn cael ei gyhoeddi. Mae Y Dewin Drewi: Busnes Od gan Nia Gruffydd yn “hwyl, doniol, a ‘chydig yn wirion,” yn ôl yr awdur.
Meddai Nia: “Ro’n i eisiau sgwennu stori fyddai’n gwneud i blant chwerthin ac a oedd yn gwneud hwyl am ben y pethau mae oedolion yn eu dysgu, ac yn eu dweud wrth blant.
“Mae Owi yn meddwl amdano’i hun yn dipyn o entrepreneur, ac yn cynnig gwasanaeth Y Dewin Drewi (gwnewch i’ch digwyddiad diflas ddiflannu).
“Ac wrth gwrs mae galw mawr gan blant am ei wasanaeth. Ond tydi’r athrawon ddim yn gwerthfawrogi ei lwyddiant o gwbl! Rhyw stori wirion tafod yn y boch ydi hon, a dwi’n gobeithio bydd y rhai hynny sy’n mwynhau nofelau Wimpy Kid yn gweld antics Owi Jones yn ddoniol.”
Y cyntaf mewn cyfres o dair, mae Y Dewin Drewi: Busnes Od yn nofel hawdd ei darllen gyda phenodau byr i gadw sylw darllenwyr a dipyn o hiwmor toiledaidd.
Ychwanegod Nia Gruffydd: “Fe ddaeth yr ysbrydoliaeth tra ro'n i ar drên yn gadael Llundain, a dyma olygfa o athrawes yn checio bagiau'r plant yn ystod trip ysgol yn dod i fy mhen, a dyma'r syniad o sosej rôl efo'r gallu i greu helynt mawr yn yr ysgol yn dechrau gwneud i mi chwerthin - a dyna gychwyn y Dewin Drewi!”
Mae’r stori yn dilyn hanes Owi Jones sy’n byw mewn tref – nid anhebyg i dref Caernarfon – efo’i fam a’i dad, a’i frawd bach Twm. A Pero’r ci defaid sili wrth gwrs. Un o hoff bethau Owi, ar wahân i greu busnes, yw pryfocio ei frawd bach Twm (7 ½ oed) sydd efo’r anlwc o orfod rhannu llofft efo Owi.
Mae Y Dewin Drewi: Busnes Od gan Nia Gruffydd ar gael nawr (£7.99, Y Lolfa).






Comments
We've recently changed our login process. If you have an account for commenting, you will need to re-register on the login window.
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.