Eleni mae’r Urdd yn dathlu 75 mlynedd ers i Syr Ifan ab Owen Edwards sefydlu Gwersyll yr Urdd Glan-llyn ar lannau Llyn Tegid ger Y Bala ym 1950.
Heddiw mae’r mudiad yn falch o gyhoeddi bydd gŵyl deuluol yn cael ei chynnal yng Nglan-llyn ar ddydd Sadwrn, 27 Medi i ddathlu’r garreg filltir arbennig.
Mi fydd yr ŵyl yn cynnwys perfformiadau gan Eden a Tant, twmpath dawns, disgo 80au a mwy.
Mae tocynnau i Ŵyl Glan-llyn bellach ar gael ar wefan yr Urdd (adran Glan-llyn) neu drwy gysylltu â’r gwersyll yn uniongyrchol.
Yn 2023 cwblhawyd gwaith uwchraddio sylweddol gwerth £2m ar y safle, diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, er mwyn datblygu darpariaeth y ganolfan awyr agored.
Roedd hyn yn cynnwys datblygu uwchraddio Canolfan Gweithgareddau Dŵr y gwersyll, bloc llety newydd (Tŷ Eirys) a thrawsnewid adeilad 150 oed, Glan-llyn Isa’, i lety hunangynhaliol a thrawiadol.
Mae’r Urdd yn falch o gyhoeddi y bydd y mudiad yn buddsoddi ymhellach mewn datblygiadau i Lan- llyn dros y ddwy flynedd nesaf.
Meddai Mair Edwards, Cyfarwyddwr Gwersyll Glan-llyn: “Dros y degawdau mae Glan-llyn wedi datblygu’n wersyll o safon sy’n cynnig gweithgareddau awyr agored o’r radd flaenaf, ac erbyn hyn rydym ni’n croesawu dros 30,000 o wersyllwyr yn flynyddol.
“Mae tîm Glan-llyn yn angerddol am sicrhau’r profiadau gorau, sy’n sbarduno cyfeillgarwch, ac yn tanio’r awydd i fentro a datblygu sgiliau newydd.
“Edrychwn ymlaen at rannu gwerth 75 mlynedd o atgofion yng Ngŵyl Glan-llyn ym mis Medi – mi fydd yn ŵyl llawn hwyl a chân.
“Gwersyll Glan-llyn oedd y lle naturiol i do newydd o gerddorion Cymraeg ymarfer eu doniau cyfansoddi, chwarae gitâr a chanu.
“Huw Jones, Dewi Pws, Geraint Jarman, Heather Jones a Delwyn Siôn – mae’r rhestr yn faith, a phawb yn tystio i’r ffaith mai yno y ganwyd, i bob pwrpas, y Byd Pop Cymraeg.
“Does dim amheuaeth mai o gynnwrf cynnar Glan-llyn a nosweithiau’r Urdd y datblygodd y corff arbennig hwn o ganu cyfoes Cymraeg.”
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.