BYDD Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd 2027 yn cael ei chynnal yn Llanidloes ddydd Sadwrn 9 Mai 2026.
Yn ôl y traddodiad, cynhelir y Cyhoeddi o leiaf flwyddyn a diwrnod cyn yr Eisteddfod er mwyn croesawu’r ŵyl i’r ardal a chroesawu’r ardal i fod yn rhan o’r ŵyl.
Y gobaith yw llenwi strydoedd Llanidloes gyda gorymdaith liwgar fydd yn dod ag ysgolion, cymdeithasau lleol a grwpiau cymunedol dalgylch yr Eisteddfod ynghyd. Wedi'r orymdaith bydd seremoni yn cael ei chynnal dan arweiniad Gorsedd Cymru, lle bydd yr Archdderwydd Mererid yn derbyn y copi cyntaf o’r Rhestr Testunau gan Aled Griffiths, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
Wrth edrych ymlaen at y seremoni, dywedodd Aled: “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad arbennig yma. Dyma’r cyfle cyntaf gwirioneddol i bobl Powys a De Gwynedd fwynhau cyffro presenoldeb yr Eisteddfod yn eu hardal leol, a dyma wahoddiad i’r gymuned gyfan fod yn rhan o’r daith tuag at yr ŵyl fis Awst nesaf.”
Bydd yr orymdaith yn gadael Ysgol Uwchradd Llanidloes am 14:00 ac yn dychwelyd erbyn i’r seremoni gychwyn am 15:00. Mae disgwyl i’r digwyddiad ddod i ben erbyn 16:00.
I gofrestru i fod yn rhan o’r orymdaith, neu i wirfoddoli yng Ngŵyl Cyhoeddi 2027 ewch i wefan yr Eisteddfod (www.eisteddfod.cymru). Bydd y Rhestr Testunau sy’n cynnwys manylion holl gystadlaethau Eisteddfod 2027 ar gael mewn siopau lleol ar draws Cymru wedi seremoni’r Cyhoeddi.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.