MAE Llanberis yn cael ei adnabod fel prif ganolfan dringo’r Wyddfa, gydag oddeutu 700,000 o dwristiaid yn ymweld bob blwyddyn.
Ond beth yw cefndir y pentref bach ar droed ein mynydd uchaf? Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol sy’n olrhain hanes canrif o ddatblygu un o bentrefi enwocaf Cymru: Pryd oedd Llanberis? (Y Lolfa) gan yr hanesydd lleol Dafydd Whiteside Thomas.
Yn ei gyflwyniad i’r gyfrol mae Dei Tomos yn nodi, ‘yn y gyfrol yma mae’r ateb i Pryd oedd Llanberis? A thybed pryd yr oedd hi, neu y daeth hi “…yn Nefoedd, bois, o dan y sêr yn hen bentra bach Llanbêr?” Mae hanes datblygiad y pentre a’r ardal, a’r “gwŷr enwog gynt” i gyd yma…’
Daeth y gyfrol i fodolaeth yn sgil y ffaith bod datblygiad pentref Llanberis ‘yn wahanol i bob pentref “chwarelyddol” arall’.
Meddai Dafydd Whiteside Thomas, “Pentref gwyliau oedd Llanberis i fod – yn llythrennol felly.
“Pe bai’r cynllun gwreiddiol wedi’i wireddu, byddai dros 30 o ‘villas’ a thair acer o dir i bob un wedi eu codi ar safle’r pentref presennol.
“Yn sgil methiant y cynllun gwyliau, dechreuwyd adeiladu tai i weithwyr cyffredin, a datblygodd pentref Cymraeg a Chymreig. Erbyn heddiw – er gwell neu er gwaeth – twristiaeth yw prif gynhaliaeth y pentref.”
Yn disgrifio’i hun fel ‘chwilotwr brwd’, mae Dafydd Whiteside Thomas wedi cyfrannu erthyglau hanes lleol i Eco’r Wyddfa ers dros 40 mlynedd, yn ogystal ag erthyglau hanesyddol i Gwreiddiau Gwynedd, Llafar Gwlad, Fferm a Thyddyn, Y Casglwr, Hanes Byw a Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.
“Roedd llawer o’r deunydd wedi’i gasglu dros y deugain mlynedd diwethaf, ond yn ystod Cofid, es ati i ddarllen pob cofnod am Lanberis hyd 1900 ym mhob un o newyddiaduron Cymru.”
Caiff y darllenydd ei gyflwyno i’r cyfoeth o enwau lleoedd lleol, y clystyrau o gymunedau ar wasgar, a ffurfiai fro Dyffryn Peris – Glynrhonwy, Penllyn, Y Fachwen, Cwm-y-Glo – cyn sefydlu isadeiledd i raddol gysylltu’r ardaloedd chwarelyddol hyn i hwyluso masnach a chludiant llechi i geiau Caernarfon.
Ar yr un gwynt, cawn ddeall sut y manteisiwyd ar y datblygiad hwn gan dirfeddianwyr cefnog yr ardal i hybu twristiaeth ac i geisio ffurfio cyrchfan wyliau foethus – a’r tensiynau gwleidyddol, cymdeithasol a chrefyddol o fewn y pentref a fu’n rhan o wead ac esblygiad Llanberis.
Cawn hefyd ddysgu am yr unigolion gweithgar a fodolai yn y pentref newydd-anedig, a ymlafniodd i sicrhau bod plant y dalgylch yn cael addysg ac yn cael cyfleoedd i brifio’n ddinasyddion crwn yn eu cymuned.
Bydd Pryd oedd Llanberis? yn cael ei lansio’n swyddogol am 7 o’r gloch, nos Fercher 29ain Ebrill yn y Ganolfan, Llanberis. Dei Tomos fydd yn llywio’r noson ac mi fydd yna luniaeth ysgafn. Bydd Palas Print yno ar y noson yn gwerthu copïau o’r gyfrol.
Mae Pryd oedd Llanberis? gan Dafydd Whiteside Thomas ar gael nawr (£10.99, Y Lolfa).





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.