BYDD Osian Meilir, artist dawns a choreograffydd o Bentre’r-Bryn, Ceredigion, yn dychwelyd i’r Maes eleni, gyda Mari Hwyr!, sbectacl awyr agored egnïol, fel un o uchafbwyntiau rhaglen artistig Eisteddfod y Garreg Las, a gynhelir yn Llantwd o 1-8 Awst.
Mae Mari Hwyr! yn gyfuniad cyffrous o ddawns gyfoes, clocsio traddodiadol, syrcas, cerddoriaeth fyw a gwisgoedd lliwgar, gan greu perfformiad gweledol trawiadol yng nghanol yr ŵyl.
Mae’r cynhyrchiad uchelgeisiol hwn yn nodi cam newydd yn natblygiad celf awyr agored ar raddfa fawr yn yr Eisteddfod a Chymru. Mae’n adeiladu ar lwyddiant gwaith blaenorol Osian Meilir, gan gynnwys QWERIN – cynhyrchiad a gomisiynwyd yn wreiddiol yn 2021 gan Articulture a Chonsortiwm Celf Awyr Agored Cymru, gyda’r Eisteddfod yn bartner allweddol.
Mae Mari Hwyr! yn ddatblygiad o’r gwaith Mari Ha! (2024) – comisiwn ar y cyd rhwng Menter Bro Morgannwg, yr Eisteddfod a Gŵyl y Dyn Gwyrdd – a ddatblygwyd ymhellach yn 2025 fel sioe graddfa ganolig, gyda’r weledigaeth glir o’i ehangu i fod yn sbectacl graddfa fawr.

Meddai Osian Meilir: “Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i gydweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto eleni. Mae bod yn rhan o ddatblygiad dawns a celf awyr agored yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn hynod gyffrous.
“O’r delweddau eiconig o gast QWERIN o flaen arwydd yr Eisteddfod yn Nhregaron yn 2022 i’r cyfle i greu sbectacl cynhwysol, cyfoes a llawn hyder mewn gŵyl sydd mor lleol i mi yn ardal y Garreg Las, rwy’n hynod ddiolchgar i’r Eisteddfod, Cyngor Celfyddydau Cymru, Articulture a Chonsortiwm Celf Awyr Agored Cymru am y gefnogaeth a’r cyfleoedd dros y blynyddoedd diwethaf.”
Mae Mari Hwyr! yn olwg newydd ar draddodiadau gwerinol Cymru, gan gyd-blethu Calan Mai a Chalan Hen, yr hirddydd haf a’r gyhydnos, y Cadi Ha a’r Fari Lwyd, i ddathlu cylch y flwyddyn, pŵer byd natur a’r defodau sy’n dod â phobl ynghyd i greu cymuned a diwylliant byw.
Fel rhan o ymrwymiad yr Eisteddfod i feithrin talent a sgiliau yng Nghymru bydd y cynhyrchiad yn cynnwys cerddoriaeth byw a phedwar clocsiwr; Lleucu Parri, Morus Jones, Gwennan Staziker a Nia Rees. Gyda nifer ohonynt yn gyn-enillwyr yr Eisteddfod rhoddir hyn cyfleoedd proffesiynol newydd i ddawnswyr traddodiadol mewn cyd-destun cyfoes.
Mae’r elfen hon yn adeiladu’n uniongyrchol ar waith Prosiect8, partneriaeth rhwng yr Eisteddfod, Menter Maldwyn a’r Gymdeithas Ddawns Werin i ddatblygu Dawnsio Traddodiadol yng Nghymru a sydd wedi profi llwyddiant gyda prosiectau fel Twmpdaith.
Ers y cyfnod clo, mae’r Eisteddfod yn gweithio’n strategol gyda’r cynhyrchydd Zoë Munn i ddatblygu celf awyr agored ar y Maes. Nod y bartneriaeth hon yw cryfhau’r sector, datblygu sgiliau newydd, a chefnogi artistiaid i greu gwaith uchelgeisiol ar raddfa fawr drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am flynyddoedd bu diffyg cyfleoedd amlwg i berfformwyr yng Nghymru gymryd rhan mewn sbectaclau awyr agored mawr. Trwy Mari Hwyr!, mae’r Eisteddfod yn cefnogi’r sector, gan feithrin sgiliau, adeiladu hyder, a chreu llwybrau gyrfa cynaliadwy drwy’r Gymraeg.
Mae Mari Hwyr!, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn adlewyrchu’r weledigaeth honno’n glir drwy berfformiad beiddgar, cynhwysol a blaengar fydd yn apelio at gynulleidfaoedd hen a newydd, gan arddangos Cymru gyfoes, greadigol a chymunedol ar lwyfan cenedlaethol ac awyr agored.
Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: “Rydyn ni’n falch o groesawu Mari Hwyr! fel rhan o raglen yr Eisteddfod eleni.
“Mae’r gwaith yn crynhoi’r hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni drwy ein rhaglen gelf awyr agored, sef gosod perfformio awyr agored wrth wraidd profiad y Maes, gan uno traddodiad, arloesedd a’r Gymraeg mewn cyd-destun byw a chynhwysol.
“Mae Mari Hwyr! yn enghraifft bwerus o sut y gall dawns, traddodiad a chreadigrwydd Cymreig ddod at ei gilydd ar Faes yr Eisteddfod, ac ym Maes B i greu profiad sy’n sicr o apelio at gynulleidfaoedd hen a newydd fel ei gilydd.”



-Menna-Elfyn-and-Proffesor-Llusern.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.