“MAE yna greisis llythrennedd ymysg plant ein gwlad, ac mae fel petai hi’n benbleth lwyr o ran sut i ddatrys y broblem. Does dim byd cymhleth am y sefyllfa, ac mae’r ateb, am wn i yn syml: llyfrau. Dyna i chi sioc!” meddai Huw Aaron wrth esbonio pam ei fod yn ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant.
Yn dilyn ei lwyddiant yn gynharach eleni wrth ennill y Brif Wobr yng Ngwobrau Llyfrau Plant Waterstones gyda’r llyfr Sleep Tight Disgusting Blob (teitl Cymraeg: Nos Da, Blob), dyma gyhoeddi llyfr stori a llun clawr caled newydd sbon i blant dan 7 oed - Mwnci Mochyn (Y Lolfa).
Meddai Huw: “Os oes rhaid disgrifio Mwnci Mochyn mewn tri gair, dyma nhw – mochyn, mwncis, bananas. Mae’n stori, am ffeindio dy le mewn bywyd, bod yn ti dy hun a derbyn eraill er gwaethaf eu gwahaniaethau. Ond yn bwysicach na’r rhain i gyd: mae’n stori ddwl.”
Mae Mwnci Mochyn yn adrodd hanes Magi sy’n byw yn hapus gyda chriw o fwncïod eraill yn y jyngl, ond mae ganddi gyfrinach fawr. Mae Magi yn fochyn. Does neb wedi sylwi, nes i Norman, y Prif Fwnci, amau bod rhywbeth o’i le a gosod tri phrawf i weld a oes mwnci ffug yn eu mysg.
Ychwanegodd Huw: “Mae fy mhlant annwyl yn disgwyl stori wreiddiol newydd bob nos cyn cysgu – ‘stori pen’.
“Fel y gallwch chi ddychmygu, ar ddiwedd diwrnod hir, a finne’n flinedig ac isel ar ddychymyg, yn amlach na pheidio mae’r storis yma yn hollol rybish.
“Ond, trwy lwc neu awen mae rhyw un mewn 20 yn dda, ac mae hyn yn golygu ar ôl dros ddegawd bod gen i lond drôr o storis i’w troi yn llyfrau.”
Mae Cymru yn wynebu argyfwng llythrennedd gyda un mewn pedwar o blant yn gadael yr ysgol gynradd yn methu darllen yn rhugl a phrofion diweddar PISA yn dangos bod Cymry ifanc 15 oed y tu ôl i weddill y DU mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.
“Mae llyfr da yn agor ffenest i fydoedd newydd, yn gosod drych i berson allu adnabod ei hun, yn adeiladu deallusrwydd, yn annog chwilfrydedd, yn ysbrydoli, yn addysgu, ac yn hwyl.
“Ac yn wahanol i apiau, gemau a YouTube, mae’r gwaith yn digwydd ym meddwl y darllenydd, ac felly’n adeiladu cyhyrau dychymyg ac empathi – tŵls hanfodol ar gyfer unrhyw yrfa.
“Wedi ymgolli mewn tudalennau saff, mae llyfrau da yn paratoi plant at fywyd – a all 3fod yn ddigon ansicr ac ansad. Dyna pam dwi’n creu llyfrau i blant.
“Un ar ôl y llall, mae gwledydd Ewrop yn fwy goleuedig na ni yn dilyn yr ymchwil, ac yn lleihau defnydd technoleg yn yr ysgolion cynradd – a mynd yn ôl i lyfrau.
“Felly: Rhieni - darllenwch gyda’ch plant! Athrawon - darllenwch gyda’ch disgyblion! Ysgolion - rhowch le teilwng i’ch llyfrgell, neu agorwch un os nad oes un gyda chi.
Gwleidyddion a gweision sifil - stopiwch daflu arian ar ffads technolegol addysgol newydd. Gor-ddefnydd o dechnoleg sydd wedi achosi’r broblem. Nid trwy mwy o dechnoleg mae trwsio pethau.”
Mwnci Mochyn (£7.99, Y Lolfa).



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.