“MAE’R penawdau diweddar o ran y cwymp yn y nifer o blant sy’n mwynhau darllen yn dorcalonnus, ond dwi’n argyhoeddedig bod nofelau graffeg – comics – yn gallu bod yn rhan o ddatrysiad y broblem yma,” meddai Huw Aaron, sydd newydd gyhoeddi nofel graffeg newydd, Y Tylwyth Annheg (Y Lolfa) ar gyfer plant oedran 7 i 11 oed.
Yn ddiweddar cyhoeddodd Nicola Davies a Siôn Tomos Owen, y Children’s Laureate Wales a Bardd Plant Cymru, bod yna argyfwng yn ysgolion Cymru, gyda llythrennedd Cymraeg yn dioddef yn enwedig. Mae nofelau graffeg wedi’u profi i fod yn help mawr mewn cadw sylw a gwella safonau darllenwyr anfodlon.
“I blant anfoddog i ddarllen neu darllenwyr ail iaith, mae’r lluniau yn gallu eu tywys trwy straeon soffistigedig, aeddfed, heb gael eu llethu gan iaith sy’n ormod iddyn nhw. Ac yn bwysicach – maen nhw’n hwyl!” meddai Huw Aaron
Mae Y Tylwyth Annheg yn dilyn Pip, arwr anarferol, ac am ddatgan y gwir am dylwyth teg, sef eu bod nhw yn wahanol iawn i’r hyn maent yn cael eu portreadu fel. Y gwir, yn ôl Y Tylwyth Annheg, ydi eu bod nhw’n nhw’n slei, yn dreisgar ac mor hudolus â gwlithod…
Meddai Huw Aaron: “Daeth yr ysbrydoliaeth o fy ngardd i. Dychmygais fyd a chymdeithas o bobl bach – ond yn hytrach na chyflwyno tylwyth teg sidet, neisneis, pobl bach terfysglyd, twp a threisgar yw’r tylwyth teg yma.
“Cyfuniad o The Borrowers a Game of Thrones oedd y nod. O ddarllen rhai o’r hen chwedlau tylwyth teg, dwi’n meddwl bod tylwyth teg Cymru wedi bod yn rhai digon direidus erioed.”
Mae’r gyfrol wedi bod yn brosiect hir, gan gymryd rhyw naw mis rhwng datblygu’r byd, y cymeriadau, ysgrifennu sgript ac yna arlunio’r tudalennau. Mae Huw yn disgrifio’r ymrwymiad o greu nofel graffeg yn “lafur cariad.”
Elidir Jones yw cyfieithydd Y Tylwyth Annheg o’r gwreiddiol Unfairies, a gyhoeddwyd gan Puffin llynedd.
Cafwyd canmoliaeth fawr i Unfairies gyda Sheena Dempsey, awdur y nofel graffeg Pablo and Splash yn dweud “Fe gewch chi’ch syfrdanu” a’r awdur a’r darlunydd Rob Biddulph yn dweud “Ro’n i’n caru popeth am y llyfr ‘ma.”
“Mae’n wir bleser i weld y llyfr yn dod mas yn y Gymraeg. O edrych trwy fy mrasluniau cynnar, syniad Cymraeg oedd Y Tylwyth Annheg, ond maent wedi teithio i’r Saesneg cyn dod 'nôl adref! Roedd gweithio gyda Elidir Jones yn grêt. Mae Elidir wedi gwneud jobyn ardderchog gan ychwanegu ei hiwmor a’i ddawn geiriau at y gwreiddiol. Mae’r ail yn y gyfres wedi’i hysgrifennu, ac mi fydd un arall yn dilyn.”
“Creu llyfr bydd plant yn joio, yn trysori ac yn ei ailddarllen yw’r nod bob tro rwy’n ysgrifennu – nid addysgu, gwthio naratif na rhoi moeswers. Mewn byd o adloniant digidol amgen, mae’n bosib bod plant wedi dod i weld llyfrau fel celfi addysg yn hytrach na chyfrwng diddanwch a hwyl. Rwy’n benderfynol o drio cofio hyn wrth greu. Ai’r llyfr hwn fydd yn bachu darllenwr newydd chwilfrydig, neu ladd ei diddordeb mewn darllen? Mae’n dipyn o gyfrifoldeb.”
Mae Y Tylwyth Annheg gan Huw Aaron ar gael nawr (£10.99, Y Lolfa).





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.