ROEDD Ifan Phillips yn chwaraewr rygbi proffesiynol gyda’r Gweilch a chanddo yrfa ddisglair o’i flaen.

Ond newidiodd popeth un dydd Sul yn 2021 pan gafodd ddamwain beic modur.

Fe gollodd Ifan ei goes, a bu bron iddo golli ei fywyd ac yntau ond yn 25 oed ar y pryd. Cyn y ddamwain, roedd yn ddechreuwr rheolaidd i’r Ospreys ac roedd wedi bod yn hyfforddi gyda sgwad Cymru’r haf hwnnw.

Meddai ar raglen ddofgen ar S4C yn 2023: "Roeddwn i wirioneddol yn mwynhau fy rygbi ar y pryd.

"Mae'n rhywbeth rwy'n edrych yn ôl arno fel cyfnod gwirioneddol bleserus.

"Ro'n i eisiau dilyn troedion fy nhad a chael cap dros Gymru. Yn anffodus, nid oedd i fod felly."

Mae ei hunangofiant gonest a gafaelgar, Bachu Cyfle (Y Lolfa) yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon. Ynddo mae Ifan yn rhannu ei daith ryfeddol o wytnwch, penderfyniad, a gobaith.

Meddai Ifan: “Yn dilyn y ddamwen, dwi’n cofio teimlo ar goll yn llwyr.

“Nes i whilio am wybodaeth a alle o bosib fy helpu i i ddeall ac i ddelio gyda fy anabledd.

“Ond wedd ddim proses i gael mas ‘na i’w dilyn ar gyfer ymdopi gyda’r newid mowr ‘ma yn fy mywyd - yn gorfforol nac yn feddyliol.

“Fy ngobeth yw y bydd rhannu fy stori yn llwyddo i ysbrydoli eraill i wthio’u hunen i oresgyn eu hanabledde a byw bywyde llawn a bodlon.”

Yn Bachu Cyfle mae Ifan yn ein harwain drwy’r ddamwain ac yn trafod ei adferiad, yr anawsterau o addasu i’w fywyd newydd gyda chefnogaeth gadarn ei deulu, ffrindiau, a’r gymuned.

Ceir hanesion dirdynnol, myfyrdodau dwys, a thipyn o hiwmor.

Ychwanegodd Ifan: “Sai mo ble fydden i ‘di bod heb gefnogaeth fy nheulu, ffrindie a’r gymuned – a nid y gymuned leol yn unig, achos wedd y gefnogaeth ges i ar draws Cymru a thu hwnt yn anhygoel.

“Heb gefnogaeth ariannol y cannoedd o bobol na’th gyfrannu at gost y go’s brosthetig, fydden i ddim wedi llwyddo i ailgydio yn fy mywyd mor glou ar ôl y ddamwen.”

Yn ei ragair, mae Wyn Gruffydd yn rhannu’r sgwrs y gafodd gyda tad Ifan, y cyn-chwaraewr rygbi Kevin Phillips: “Shwd ydych chi yn cynnal ei ysbryd e‘?” meddwn i wrth ei dad, Kevin ’chydig wedi’r ddamwain.

“Wedd yr ateb sydyn yn adrodd cyfrole. ‘Fe sy’n ein cynnal ni.’ A dyna i gyd sydd angen i chi w’bod am Ifan.”

Aeth Ifan ymlaen: “Y llyfre dwi’n mwynhau eu darllen fwya yw’r rhai hynny sy’n llwyddo i ddysgu rhywbeth newydd i fi am shwt i fyw o ddydd i ddydd.

“Gwnes i fwynhau cymryd amser i ystyried yr hyn dwi wedi bod trwyddo, a beth dwi wedi ei ddysgu am fy hunan fel unigolyn. Dwi’n gobitho bo elfen o hynny yn cael ei adlewyrchu yn Bachu Cyfle.”

Bydd Bachu Cyfle yn cael ei lansio’n swyddogol ar nos Wener 24ain Hydref yng Nghlwb Rygbi Crymych am 7:30yh. Croeso mawr i bawb!

Mae Bachu Cyfle gan Ifan Phillips ar gael nawr (£11.99, Y Lolfa)