“FY nod yw rhoi gobaith a hyder i bobol eraill sy’n byw gyda chanser cam 4 ac i ddangos, er ei fod yn anodd ar brydiau, bod modd byw bywyd llawn,” meddai’r cyflwynydd radio a theledu a mam i dri, Mari Grug, wrth gyhoeddi ei hunangofiant, Dal i fod yn fi (Y Lolfa), wythnos yma.

Yn Ebrill 2023 ffeindiodd Mari Grug lwmp yn ei bron ac erbyn Mai y flwyddyn honno roedd wedi cael diagnosis o ganser.

“Ces i fy llorio,” meddai Mari Grug wrth edrych yn ôl ar y cyfnod anodd hwn.

Gydag un mewn pob dau yn debygol o dderbyn diagnosis o ganser yn ystod eu bywyd, mae ei stori lawn cryfder yn un ar gyfer pobol ymhobman.

Meddai Mari Grug: “Mae canser y fron yn mynd i effeithio ar 1 mewn 7 ohonom, gyda chanser y fron metastatig (sef canser sydd wedi lledu i rannau eraill o’r corff) yn gyfrifol am y mwyaf o farwolaethau ymhlith menywod rhwng 40 a 59 ym Mhrydain bob blwyddyn.

“Felly gan ystyried y ffeithiau brawychus hynny ro’n i’n teimlo dyletswydd i rannu fy stori er mwyn codi ymwybyddiaeth.

“Dwi wedi bod yn lwcus iawn i gydweithio gyda Meleri Wyn James ar y llyfr a dwi’n ddiolchgar iawn iddi am ei hamser a’i hamynedd. Fydd unrhyw un sy’n fy nabod i yn gwbod mod i’n gallu siarad, felly doedd hynny ddim yn broblem. Ond wnes i weld siarad am y plant yn anodd, roedd hi’n dipyn o job i ddal y dagrau nôl.”

Meddai Meleri Wyn James, “Mae hi wedi bod yn fraint i gydweithio gyda Mari Grug wrth adrodd ei stori yn y gyfrol hon.

Ro’n ni’n dwy yn ein dagrau ar adegau, ond mae yna ddigon o heulwen a gobaith yn y dweud hefyd.”

Mae’r gyfrol agos-atoch hon yn dweud stori ddirdynnol a dewr Mari Grug. Mewn geiriau a lluniau personol ohoni hi a’r teulu, dyma stori menyw ifanc, mam gariadus a chyflwynydd talentog.

Bydd Dal i fod yn fi gan Mari Grug yn cael ei lansio’n swyddogol ar nos Wener 17 Hydref yng Nghaffi Beca, Efailwen, drwy wahoddiad yn unig.

Yn wreiddiol o Fynachlog-ddu, mae Mari’n byw yn San Clêr yn Sir Gâr gyda’i theulu.

Magwyd ar fferm ac addysgwyd yn Ysgol y Preseli cyn astudio’r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Caerdydd.

Dechreuodd ei gyrfa fel cyflwynydd gyda Planed Plant ar ôl iddi raddio

Mae’n gyflwynydd Prynhawn Da ac yn ganolbwynt y rhaglen ddogfen, Mari Grug: Un Dydd ar y Tro ar S4C.

Mae ei phodledliad ar BBC Radio Cymru, ‘1 mewn 2’, yn trafod canser.

Enillodd ‘1 mewn 2’ gategori y Podlediad Cymraeg gorau yn y British Podcast Awards 2025.

Meleri Wyn James yw cyd-awdur y gyfrol. Mae Meleri yn awdur profiadol sydd wedi cyhoeddi llyfrau ffeithiol a ffuglen ar gyfer plant, pobol ifanc ac oedolion. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 am ei chyfrol Hallt.

Mae Dal i fod yn fi gan Mari Grug ar gael nawr (£11.99, Y Lolfa).