MAE nofel heb ei thebyg yn cael ei lansio o eiddo awdur newydd sbon, sef Lladd Arth gan Kayley Roberts; cyfrol amlhaenog, heriol ac eang ei hapêl.
Y prif gymeriad yw Nia, sy’n cyflwyno’i stori mewn Cymraeg llafar ac yn defnyddio ieithwedd sgyrsiol, naturiol y cymeriad, sy’n rhoi naws agos-atoch i’r nofel.
Mae gan Nia gariad, swydd stedi, tŷ newydd i’w ddecoretio… Eto, mae ’na rywbeth yn cnoi y tu mewn iddi, yn ysu; ysu am rywbeth ffresh, ecseiting cyn ‘setlo lawr’, cyn iddi golli’r cyfle – neu’r brwdfrydedd – am byth.
Un diwrnod, mae’r cyfle hwnnw yn ymddangos. Prosiect ymchwil, yng nghwmni pedwar gwyddonydd arall. Blwyddyn gyfa’ ar ynys dawel yn yr Arctig… Ynys Safísk.
Nod y trigolion newydd ydy ffeindio ac astudio deryn prin, sy’n hollol unigryw i’r fro anial. Ond, wrth wneud hynny, maen nhw’n amharu ar heddwch y tirlun. Maen nhw’n cythruddo enaid yr ynys. Wrth i chwarae droi’n chwerw, mae’r gwyddonwyr yn gorfod brwydro yn erbyn yr oerni, yr unigrwydd, eu teimladau… a rhywbeth llawer iawn peryclach…
Meddai Kayley: “Dwi’n gobeithio neith pawb fwynhau’r daith i Ynys Safísk, dwi wedi cuddio nifer o drysorau ar hyd y ffordd i chi ddarganfod, ond hydnoed os awn nhw ar goll yn yr haenau, fydd na lot o hwyl i gael ar hyd y daith!”
Mae’r nofel ffuglen wyddonol hon yn frith o themâu pwerus: anghenion a dyheadau, cyfeillgarwch, dynoliaeth, byd natur a’r amgylchedd, daearyddiaeth, gwyddoniaeth, greddf goroesi, iechyd meddwl, hawliau merched, materion rhywedd, y gymuned LHDTC+… Ond yn gefnlen ganolog, greiddiol i’r cwbl y mae effaith dyn ar y blaned a’i amgylchfyd, a brwydr y Fam Ddaear i ddal ei thir.
Gair am yr awdur
Mae Kayley yn awdur o Gaernarfon sy’n sgwennu nofelau, barddoniaeth, cerddoriaeth, a straeon byrion.
Maen nhw’n hoff iawn o lyfrau ffantasi, ac eisiau cyfrannu rhywbeth i’r genre sy’n apelio at ferched a phobl LHDTC+, gan eu bod nhw’n rhan o’r gymuned hon.
Mae Kayley’n chwarae’r sacsoffôn fel rhan o brosiect Kathod, ac yn aelod selog o’r clwb darllen Llyfrau Lliwgar. Maent hefyd yn rhan o’r tîm sy’n trefnu Balchder Gogledd Cymru. Dyma eu nofel cyntaf.
Lladd Arth, Kayley Roberts, Y Lolfa, clawr meddal, £10.99
Lansiad
Nos Iau, Mehefin 26, 7pm yn Palas Print, Caernarfon:
· Sgwrs am y nofel, a sesiwn holi ac ateb yng nghwmni’r awdur a Llio Maddocks.
· Cerddoriaeth fyw gan Melda Lois.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.