AR ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025 cyhoeddwyd mai Lleucu Haf Thomas o Sir Benfro yw enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg.

Dyfernir y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg i’r cystadleuydd sydd wedi cyflwyno’r gwaith mwyaf addawol o blith enillwyr cenedlaethol holl gynnyrch yr adran Bl.10 a dan 19 oed.

Mae Lleucu, 16, yn ddisgybl ym mlwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Yn gystadleuydd cyson efo’r Urdd yn yr adran Celf Dylunio Technoleg a Cherddoriaeth mae hi wrth ei bodd gyda phynciau celfyddydol mynegiannol. Mae ei darn buddugol wedi’i greu yn gyfan gwbwl o wair.

Meddai: “Rwy’n ymfalchïo fy mod yn ferch o gefn gwlad, a beth well na chreu celf allan o fyd natur.

“Rwy’n credu ei fod yn hanfodol bwysig i gadw’r traddodiadau hen yn fyw ac mor ddiolchgar i Aeres James o Sir Benfro am gyflwyno’r grefft o greu eitemau a phlethu llafur i mi nôl yn 2020.

“Rwyf bellach yn medru’r sgil anghyffredin yma sy’n rhoi pleser mawr i mi. Rwyf yn meddwl am syniad ac yn mynd ati i gynllunio, ei ddatblygu a’i greu dros oriau di-ri.

“Rwy’n cael gymaint o bleser mewn creu celf, ac mae’n fraint cael ennill y fedal yma ac i rannu fy ngwaith gyda phawb.”

Beirniaid y Fedal oedd Siwan Thomas, Edwina Williams-Jones, Hannah Evans, Owain Sparnon, Laura Thomas, Betsan Haf Evans, Katie Louise Trick, Rhian Stone a Robyn Tomos.

Dywedodd y beirniaid: “Roedd safon yr holl ddarnau’n codi calon y beirniaid – gwaith oedd yn grefftus ac yn llawn dychymyg. Pleser oedd gweld creadigrwydd pobl ifanc Cymru.

“Roedd gwahanol ddarnau’n apelio at wahanol feirniaid ond tynnwyd sylw pob un ohonom gan un darn penodol, sef tractor wedi ei greu o wellt.

“Mae crefft gwellt yn un sydd mewn perygl o ddiflannu, felly braf oedd gweld ymdriniaeth ohoni yma.

“Mae’r gwaith yn gywrain ac yn llawn dychymyg.

“Mae’n adlewyrchu dawn artistig ac addewid, ynghyd â gwybodaeth am wleidyddiaeth gyfredol, gan dynnu sylw at ymwybyddiaeth o’r brotest wleidyddol ‘Heb amaeth, heb faeth’. Mae’n waith sy’n drawiadol am fwy nag un rheswm.”

Disgrifiwyd y gwaith buddugol gan y beirniaid Betsan Evans fel “campwaith, manylder ac amynedd sy’n codi gwên.”

A dywedodd y beirniaid, Hannah Evans fod “y gwaith yn sefyll allan fel darn dychmygu a chywrain, oedd yn dangos lefel uchel o fanylder a chrefftwaith. Roedd y defnydd deallus o ddeunyddiau traddodiadol mewn ffordd greadigol ac annisgwyl yn ei wneud yn drawiadol ac yn un i’w gofio. Mae’n adlewyrchu addewid gwirioneddol a dawn artistig.”