FE gynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llanwrtyd eleni ar ddydd Sadwrn, Medi 26ain yn Neuadd Fictoria.

Gwyn Jones, Llanafan, oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth yr Emyn Dôn dros 60 oed gyda Ioan Mabbutt o Aberystwyth yn cipio’r wobr gyntaf yn yr Unawd Gymraeg.

Gwyn Jones o Lanafan
Gwyn Jones o Lanafan (Elin Mabbutt)

Elen Fflur, Llandeilo oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth yr Her Adroddiad a David Mayberry ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth yr Her Unawd.

Cipiwyd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth yr Unawd Allan o Sioe Gerdd gan Brychan Williams, Llambed

Llinos Dafydd o Groeslan Llandysul cafodd ei chadeirio a hynny am yr ail dro gan iddi ennill yn yr eisteddfod hon unwaith o’r blaen a hynny nôl yn 2004. Eleni ysgrifennodd gerdd ar y teitl ‘Y Tymhorau’.

Ioan Joshua Mabbutt o Lanbadarn, Aberystwyth yn derbyn ei wobr gan Hywel Davies, Cadeirydd Eisteddfod Llanwrtyd
Ioan Joshua Mabbutt o Lanbadarn, Aberystwyth yn derbyn ei wobr gan Hywel Davies, Cadeirydd Eisteddfod Llanwrtyd (Elin Mabbutt)

Mae Llinos yn newyddiadurwr, yn ogystal â chyfieithydd. Mae’n ysgrifennu ar-lein ac ar hyn o bryd mae’n golygu Golwg 360 dros dro.

Fe gynhelir Eisteddfod Gadeiriol Llanwrtyd 2027 ar ddydd Sadwrn, Medi 25ain