MAE llyfr arbennig iawn yn cael ei gyhoeddi y mis hwn: llyfr sydd wedi’i ysgrifennu gan ddegau o awduron o bob rhan o Gymru!

Mae Positifrwydd Pinc: Cymru drwy Lygaid Merched y Wawr yn deillio o syniad gan Bethan Picton-Davies, llywydd cenedlaethol Merched y Wawr, oedd am greu llawlyfr cyfleus i bobl i bori drwyddo a’i gario yn y car; llyfr sy’n tynnu ar wybodaeth eang aelodau’r mudiad ledled Cymru am eu hardaloedd.

Medd Bethan: “Roeddwn am greu adnodd fyddai’n ddefnyddiol i aelodau’r mudiad yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol; adnodd i oroesi fy llywyddiaeth innau.

“Rydyn ni i gyd yn hoff o deithio o amgylch Cymru – gobeithio y bydd y llyfr hwn yn gydymaith hwylus.”

Yn y gyfrol mae pennod gan bob un o 13 o ranbarthau Merched y Wawr, yn cyflwyno hanes a chwedlau lleol, teithiau cerdded, atyniadau lleol a ryseitiau.

Mae yma hefyd flas ar dafodiaith a dywediadau unigryw’r rhanbarthau.

Bydd yr elw o werthiant y llyfr yn mynd i Ymchwil Canser Cymru, yr elusen mae Bethan wedi dewis ei chefnogi drwy gydol cyfnod ei llywyddiaeth, a gwaith Merched y Wawr.

Mae’r gyfrol wedi’i henwi ar ôl yr ymgyrch codi arian – ymgyrch sydd wedi gweld aelodau Merched y Wawr yn gwisgo pinc â balchder er mwyn cefnogi’r achos.

“Rwy’n falch iawn fod y llyfr yn cael ei gyhoeddi, ac yn falch fod y rhan fwyaf o’r elw’n mynd tuag at waith gwerthfawr Ymchwil Canser Cymru,” eglura Bethan.

“Mae hon wedi bod yn daith emosiynol iawn i mi yn bersonol, ac mae’n golygu cymaint cael gweld y syniad hwn yn dwyn ffrwyth.

“Hoffwn ddiolch o waelod calon i Meinir a staff y swyddfa, sydd wedi cydlynu’r cyfan, i bob un o ranbarthau Merched y Wawr ledled Cymru sydd wedi cyfrannu at y prosiect hwn, ac i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser, eu hegni a’u cefnogaeth i wireddu’r fenter.

“Bydd y llyfr yn siŵr o fod yn anrheg Nadolig ystyrlon ac arbennig.”

Yn cefnogi Bethan mae Tegwen Morris, cyfarwyddwraig genedlaethol Merched y Wawr.

“Mae hi wedi bod yn fraint cydweithio â Gwasg Carreg Gwalch i gyhoeddi’r llyfr arbennig hwn – y trydydd llyfr i ni ei gyhoeddi gyda’r wasg,” medd Tegwen.

“Rwy’n dychmygu gweld y gyfrol hon yn teithio ar draws Cymru, gyda phobl yn cael mwynhad o ddod i adnabod ein gwlad trwy lygaid Merched y Wawr.

“Diolch i’r holl aelodau sy’n ysbrydoli ein gwaith yn ddyddiol.”

Bydd Positifrwydd Pinc ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru (£14), ar Ffolio.com ac ar wefan www.carreg.gwalch.cymru o 26 Tachwedd 2026.

LANSIADAU

Dydd Llun, 30 Tachwedd, 2yp, Stondin Merched y Wawr, Maes y Ffair Aeaf, Llanelwedd yng nghwmni Mari Grug.

Dydd Mercher, 16 Rhagfyr, 2yp, Bar Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, yng nghwmni Natalie Jones, S4C. Gwerthir copïau o’r llyfr yn Aberystwyth gan Siop Inc, a noddir y lluniaeth gan S4C). Croeso i bawb – mynediad am ddim.

Positifrwydd Pinc:Cymru drwy lygaid Merched y Wawr, Gol: Bethan Picton-Davies, Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr, Gwasg Carreg Gwalch, £14