DYLEN ni gyd w’bod pwy oedd John Ffos Davies. Ond dy ni ddim. Ac, yn ôl y canwr gwerin Owen Shiers a’r berfformwraig Elliw Dafydd, nid y’n bai ni yw hwnna, ysgrifenna Euros Lewis.
Mewn rhaglen i’w darlledu’n fuan ar Radio Cymru mi fydd y ddau nid yn unig yn gwneud hi’n amlwg pam y dyle enw prifathro Ysgol Cribyn gynt fod yn gyfarwydd i bawb sy’n trysori ein hetifeddiaeth gerddorol ond hefyd yn datgelu pwy a ddygodd oddi wrtho’r clod oedd yn ddyledus iddo.
“Magwyd Elliw a finnau ar lannau afon Teifi, ond dim ond trwy hap a damwain ddaeth y ddau ohonom i glywed am Ffos Davies,” medd Owen. “Er i fi gael fy magu ryw bum milltir yn unig o’i gartre o’n i heb glywed amdano nes i’r pibydd Ceri Rhys Matthews dynnu fy sylw at y gamp bwysig y cyflawnodd ar ran ein canu cynhenid.

“Ers hynny mae gwaith Ffos Davies wedi bod yn ganolog i ’nghenhadaeth ar ran ein hetifeddiaeth leol a chenedlaethol.”
Clywed Owen Shiers yn canu baled sy’n adrodd hanes y cam a ddioddefodd yr addysgwr a’r cerddor gwych a ddaeth a John Ffos Davies i sylw Elliw Dafydd.
Meddai: “Chlywes i erioed amdano’ meddai ‘er mor agos i’w ’nghartre ger Silian i bentre Cribyn, Dyffryn Aeron – y gymdogaeth le y clywodd Ffos Davies ganu ar alawon a oedd wedi hen ddiflannu o grynswth llawr gwlad y Gymraeg.”
Wrth ateb y cwestiwn Pwy Oedd Ffos Davies? mi fydd Owen ac Elliw yn tynnu sylw at ofalgarwch a medrusrwydd yr athro o gerddor wrth iddo gofnodi’r trysorau a glywai trwy gyfrwng dim byd mwy soffistigedig na’i glust fain a phensil a chopi-bwcs yr ysgol.
Ychwanegodd Owen: “Mae canrif gron wedi mynd hebio ers iddo arbed Twll Bach y Clo, Y March Glas a’r Cryman Bach ac ati rhag mynd i ebargofiant’ medd Elliw. ‘Ac ers i eraill ddwyn y clod am gyflawni’r gwaith holl bwysig hwnnw oddi wrtho.”
Medd y ddau: “Mae’n hen bryd unioni’r cam.”
PWY OEDD FFOS DAVIES? – BBC Radio Cymru, prynhawn dydd Sul, 22 Chwefror, 4.00 o’r gloch.
Cynhyrchiad menter gymdeithasol Wes Glei, Dyffryn Aeron.
Cyflwynydd: Elliw Dafydd, Silian. Baledwr: Owen Shiers, Capel Dewi. Datgeiniaid: Carys Haf, Caio a Dafydd Jones, Dihewyd.
Golygydd: Dylan Williams, Ystrad Aeron.
Cyd-gynhyrchwyr: Elliw Dafydd ac Euros Lewis.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.