I DDATHLU Dydd Miwsig Cymru eleni, mae S4C wedi rhyddhau delweddau cyntaf o ail gyfres Y Llais cyn i'r gyfres gychwyn yn swyddogol ym mis Mawrth.

Y Llais yw’r fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, a fformat ITV Studios o The Voice, a gafodd ei ddarlledu ar S4C am y tro cyntaf yn 2025 gan gipio calon y genedl.

Yws Gwynedd, Aleighcia Scott, Syr Bryn Terfel a Bronwen Lewis
Yws Gwynedd, Aleighcia Scott, Syr Bryn Terfel a Bronwen Lewis (S4C)

Mae’r lluniau yn arddangos y llwyfan eiconig a’r cadeiriau coch enwog, yn ogystal â’r pedwar Hyfforddwr sydd yn ôl i'r gyfres newydd - y canwr opera byd-enwog Syr Bryn Terfel, y gantores a’r cyflwynydd Bronwen Lewis, y canwr a’r perchennog label recordiau Yws Gwynedd a’r gantores reggae a’r cyflwynydd, Aleighcia Scott. Y cyflwynydd a DJ BBC Radio 1, Sian Eleri, sydd yn ôl i gyflwyno’r gyfres.

Mae Dydd Miwsig Cymru eleni yn dathlu cynnydd byd-eang ac effaith ddiwylliannol cerddoriaeth Gymraeg. Mae lleoliadau ar lawr gwlad yn chwarae rôl bwysig yn y dathliadau hefyd, gyda gigs yn cael eu cynnal mewn mannau cymunedol ledled Cymru i nodi’r diwrnod.

Syr Bryn Terfel
Syr Bryn Terfel (S4C)

Dywedodd yr Hyfforddwr Yws Gwynedd sydd hefyd yn berchennog label Recordiau Côsh: “Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddiwrnod i ddathlu cerddoriaeth o bob math yng Nghymru a chefnogi’r artistiaid, labeli neu drefnwyr gigs ar draws y wlad. A be sy’n grêt am Y Llais ydi bod o’n agored i bawb – dydi o ddim ar gyfer un steil na genre. Os ydi’r llais yn sefyll allan, dyna sy’n bwysig.

“Mae nifer o’r lleisiau â gymerodd ran yn Y Llais llynedd wedi mynd ymlaen i ryddhau cerddoriaeth eu hunain a chyfoethogi’r sîn gerddorol yng Nghymru.

Bronwen Lewis
Bronwen Lewis (S4C)

“Dwi methu aros i bawb adra weld y talent ‘da ni wedi’i brofi’n barod yn rowndiau cyntaf Y Llais – mae hi am fod yn gystadleuaeth ffyrnig iawn eto eleni!”

Mae cystadleuwyr Y Llais yn camu i’r llwyfan gan wynebu rhes o Hyfforddwyr â’u cefnau i’r canwr. Y llais yn unig sydd yn eu perswadio i droi eu cadeiriau. Rose Datta o Gaerdydd oedd enillydd cyntaf Y Llais yn 2025 fel rhan o dîm Aleighcia Scott, ond pwy fydd yn hawlio teitl Y Llais eleni?

Bydd y gyfres yn cychwyn ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer o 8 Mawrth ymlaen.

Aleighcia Scott, Sian Eleri a Bronwen Lewis
Aleighcia Scott, Sian Eleri a Bronwen Lewis (S4C)