YN dilyn llwyddiant darllediad dartiau y sianel ym mis Mehefin ac Awst, bydd S4C yn dod â holl gyffro Pencampwriaeth Dartiau'r Byd WDF o Lakeside am y tro cyntaf erioed ym mis Rhagfyr.
Mae’r gystadleuaeth, sydd yn cael ei drefnu gan Ffederasiwn Dartiau’r Byd (WDF), yn cynnwys y chwaraewyr llawr gwlad gorau o bob cwr o’r byd yn cystadlu am deitl Pencampwr y Byd.
Mae’r twrnament yn dyddio yn ôl i 1978 ac wedi cynnwys nifer o gewri’r byd dartiau dros y blynyddoedd, o'r pencampwr cyntaf Leighton Rees i bobl fel Eric Bristow, Phil Taylor, Richie Burnett, Raymond van Barneveld, Martin Adams, Mark Webster, Trina Gulliver ac, yn y blynyddoedd diweddar, Neil Duff, Shane McGuirk, Wayne Warren, Beau Greaves a Luke Littler.
Mae lleoliad Lakeside yn cael ei gysylltu â dartiau ledled y byd ac yn paratoi i gynnal Pencampwriaeth Dartiau’r Byd am y 38ain tro.
Bydd pum teitl Pencampwriaeth y Byd yn cael eu dewis yn Lakeside eleni – y Dynion, Menywod, Bechgyn, Merched a Dartiau Para – gyda darllediadau o’r pum ffeinal wedi’u cynnwys fel rhan o ddarllediad byw estynedig ddydd Sul.
Bydd y pencampwriaethau’n dechrau ar ddydd Gwener 28 Tachwedd, gyda darllediadau S4C yn cychwyn o ddydd Mercher 3 Rhagfyr. Bydd y darllediadau’n cynnwys gemau o’r ail rownd ymlaen, gan gynnwys y rownd derfynol ddydd Sul, a fydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar draws lwyfannau S4C.
Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Mae S4C yn falch iawn o ddarlledu’n fyw o Lakeside am y tro cyntaf.
“Rydym wedi ymrwymo i arddangos y dalent a’r cystadlaethau orau ar draws ystod eang o ddigwyddiadau chwaraeon. Mae Pencampwriaethau Dartiau’r Byd yn uchafbwynt yn y calendr chwaraeon, ac rydym wrth ein bodd i allu darparu llwyfan i chwaraewyr o Gymru a gwledydd eraill berfformio ar un o lwyfannau mwyaf eiconig dartiau."
Dywedodd Nick Rolls, Ysgrifennydd y WDF: "Roedd darllediad S4C o Gwpan y Chwe Gwlad a Phencampwriaeth Cymru yn gynharach eleni o’r radd flaenaf, gan roi llwyfan gwych i’r chwaraewyr talentog sydd o fewn ein system.
“Mae’n wych i gael y cyfle i weithio gyda nhw eto ar ein digwyddiad mwyaf o’r flwyddyn, yn fyw o’r eiconig Lakeside, gan roi amlygrwydd gwych i’r 84 o chwaraewyr sy’n cymryd rhan yn ein Pencampwriaethau Byd eleni.
“Mae poblogrwydd darts yn tyfu’n fyd-eang, ac rydym yn hyderus bod rhoi mwy o sylw iddo ar deledu yn y DU yn help i hyrwyddo’r gamp rydym yn ei charu ymhellach."
Cynhyrchir Pencampwriaeth Dartiau'r Byd WDF gan Media Atom i S4C.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.