Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llanarth ar ddydd Gwener, 10 Hydref - y disgyblion lleol yn dangos eu doniau yn y prynhawn, gyda'r adran agored yn yr hwyr.
Gyda llond neuadd bentref yn cefnogi plant ysgol Llanarth, y beirniaid oedd Catrin Evans (Cerdd), Enfys Llwyd (Llefaru) a Sian Heulwen (arlunio a gwaith celf).
Bu Ceirios Gruffydd yn cyfeilio i'r plant ysgol.
Cafwyd prynhawn cofiadwy, gyda'r beirniaid yn cael gwres eu trad, wrth benderfynu ar yr enillwyr allan o'r 60 o blant fu'n cystadlu.

Roedd y seremoni cadeirio yn werth ei gweld gyda disgyblion hŷn yr ysgol yn cyfrannu'n helaeth i'r digwyddiad, drwy gyrchu, cyfarch a chyd ganu cân y cadeirio.
Enillydd cadair Ysgol Llanarth oedd Gwennan Lois Jones a hithau hefyd enillodd y tlws am yr unigolyn gyda'r nifer mwya o bwyntiau yn yr eisteddfod.
Yna am 5.30pm, tro y cystadleuwyr yn yr adran agored oedd hi.
Eleni eto, derbynwyd gwobrau ychwanegol i'r cystadleuwyr o dan 12 oed. Mae’r trefnwyr yn ddiolchgar tu hwnt i Gill Hearne (gynt o Fydroilyn a Llanarth) am roi rhodd i'r eisteddfod o rai o'r cwpanau a enillodd hi tra'n cystadlu sawl blwyddyn yn ȏl.
Yn beirniadu'r adran agored oedd Esyllt Thomas, Mynachlogddu (cerdd) ac Eirian Wyn Jones, Crymych (llefaru). Tudur Jones o Dywyn oedd y cyfeilydd. Llywydd yr Eisteddfod oedd Nelian Williams, gynt o Pantyrhendy, Llanarth. Cafwyd ganddi araith arbennig yn son am ei hamser yn cystadlu yn eisteddfod Llanarth tra yn yr ysgol.

Cafwyd seremoni gadeirio gofiadwy wrth i'r beirniad Einir Wyn Jones lywio'r seremoni a thraddodi'r feirniadaeth.
Allan o 18 ymgais, a'r safon yn uchel iawn yn ȏl y beirniad, enillydd y gadair oedd merch leol o Dalgarreg, Mali Evans.
Diolchwyd i Aled Dafis am lunio'r gadair eleni eto, ac i Esyllt y beirniad cerdd am ganu cân y cadeirio, a Gwenno a Gwennan am gyrchu a chyfarch yr enillydd.
Dyma ganlyniadau yr adran agored - llwyfan
Unawd o dan 6 - 1. Ffion Llywelyn, Llannwnen; 2. Iolo James, Llandysul 3. Glain Jones, Llanarth.
Llefaru o dan 6 - 1. Ffion Llywelyn, Llanwnnen; 2. Glain Jones, Llanarth.
Unawd 6-8 - 1. Trefor Hatcher Davies, Llanddewi Brefi; 2. Ifan Morris, Llanfihangel ar Arth; =3. Ilan Rhun Phillips, Caerfyrddin ac Alaw Mair Richards, Llwyncelyn.
Llefaru 6-8 - 1. Ifan Morris, Llanfihangel ar Arth; 2. Trefor Hatcher Davies, Llanddewi Brefi; =3. Ilan Rhun Phillips, Caerfyrddin ac Alaw Mair Richards. Llwyncelyn.

Unawd 8-10 - 1. Neli Evans, Talgarreg; 2. Lydia Rees, Cross Inn; 3. Bethan Llywelyn, Llannwnen.
Llefaru 8-10 - 1. Neli Evans, Talgarreg; 2. Bethan Llywelyn, Llannwnen; 3. Lydia Rees, Cross Inn.
Canu'r piano o dan 12 - 1. ac yn ennill cwpan her Dafydd a John Lloyd, Tegfan - 1. Gruff Rhys Davies, Llandyfriog; 2. Alys James, Llwyncelyn; =3. Non Thomas, Talgarreg a Gwennan Lois Jones, Llwyncelyn.
Canu emyn o dan 12 - 1. Neli Evans, Talgarreg; 2. Alys James, Llwyncelyn; 3. Efa Medi James, Llandysul.
Alaw werin o dan 12 - 1. Gruff Rhys Davies, Llandyfriog; 2. Efa Medi James, Llandysul; =3. Hana Sisto, Gorsgoch a Heidi James, Llwyncelyn.
Cerdd dant o dan 12 - 1. Gruff Rhys Davies, Llandyfriog; 2. Hana Sisto, Gorsgoch; 3. Non Thomas, Talgarreg.
Llefaru 10-12 - 1. Gwenno Jones, Llanarth; 2. Efa Medi James, Llandysul; 3. Gruff Rhys Davies, Llandyfriog.
Unawd 10-12 - 1. Efa Medi James, Llandysul; 2. Alys James, Llwyncelyn; =3. Gruff Rhys Davies, Llandyfriog a Molly Rose, Llanarth.
Cwpan her Mr a Mrs Geraint Hughes a'r teulu i'r llefarydd mwyaf addawol o dan 12 - Trefor Hatcher Davies, Llanddewi Brefi

Cwpan her er cof am Mr a Mrs Wil Evans, Brynawen i'r unawdydd mwyaf addawol o dan 12 - Neli Evans, Talgarreg
Deuawd o dan 18 - 1. Non Thomas a Neli Evans, Talgarreg.
Unawd 12-18- 1. Brychan Williams, Llambed; 2. Alwena Owen, Llanllwni.
Llefaru 12-18 - 1. Alwena Owen, Llanllwni.
Cerdd dant 12-18 - 1. Alwena Owen, Llanllwni
Dweud jȏc o dan 16 - Rhannu'r gwobrau rhwng Gwennan Jones, Non Thomas, Efa James, Gwenno Jones, Grug Rees a Lydia Rees.
Canu emyn 12-18 - 1. Brychan Williams, Llambed; 2. Alwena Owen, Llanllwni.
Darllen o nofel dan 16 - 1. Fflur McConnell, Aberaeron.
Alaw werin 12-18 - 1. Alwena Owen, Llanllwni; 2. Brychan Williams, Llambed.
Offeryn cerdd dan 18 - 1. Alwena Owen, Llanllwni; 2. Fflur McConnell, Aberaeron.
Cwpan her er cof am James a Megan Rees, Pencae i'r perfformiad mwyaf cofiadwy yn yr adran hŷn - Alwena Owen, Llanllwni.
Dyma ganlyniadau yr adran lenyddiaeth -
Gwobr llenyddiaeth yr ifanc dan 25 ac yn ennill cadair yr eisteddfod - Mali Evans, Talgarreg.
Cerdd ddigri - 1. Megan Richards, Aberaeron; 2. Megan Richards; 3. Megan Richards.
Limrig - 1. Susan Rees, Lledrod; 2. Iwan Thomas, Cilie; 3. Myfanwy Roberts, Llanrwst.
Brawddeg - 1. Iwan Thomas, Cilie; 2. Carys Briddon, Tre'r Ddol; 3. Megan Richards, Aberaeron.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.