ADOLYGIAD

Y Cylch Cyfrin, Derfel F Williams, Gwasg Carreg Gwalch, £8.99

MAEN nhw’n dweud wrtha i ei bod yn freuddwyd i nifer o blant i ymuno â’r syrcas.

Rhamant y big top yn orlawn o berfformwyr o bedwar ban yn eu dillad lliwgar, yn marchogaeth ceffylau ac eliffantod, yn rheoli llewod peryglus, neu’n hongian yn osgeiddig o siglen y trapîs, a cherdded yn hyderus ar draws weiren uchel.

I’r mwyafrif ohonon ni mae’r byd hwn yn rhywle fyddwn ni’n ymweld ag e pan ddaw’r syrcas i’r dre, neu’n gwylio ar deledu, ond i awdur y nofel hon roedd y byd hwn yn realiti, ac yn ffordd o fyw iddo am flynyddoedd lawer.

Iddo ef, gwireddwyd y freuddwyd. Pwy well felly i’n tywys ni i fyd y syrcas go iawn – y byd tu ôl i’r secwins a’r llwch llif.

Yma fe gawn stori tair cenhedlaeth o’r un teulu, a’u cylch estynedig.

Dyma gymeriadau cig a gwaed y syrcas – ambell un yn dianc o fywyd, ereill yn cuddio ac yn trio anghofio erchyllterau’r gorffennol, ac yn ffeindio cartref o dan gynfas y babell fawr, a theulu o fewn muriau sigledig carafán.

Wrth ddilyn hanesion y teulu Vogel/Davies fe gawn ni weld sut mae’r ffordd o fyw unigryw hon yn gorfod newid ac addasu, a hynny nid er gwell bob amser.

Mae’r awdur yn deall y cymeriadau yma – yn eu nabod nhw bob un, ac nid y rhai â dwy goes yn unig.

O’r bennod gyntaf oll, mi syrthiais mewn cariad gyda Dilys, ac mae ei hanes hi’n britho’r stori o’r dechrau i’r diwedd.

Fe glywodd hon y cyfrinachau i gyd, ac mae ganddi gof eliffant!

Roedd yn aelod bwysig o’r teulu, ond wrth i fyd y teulu newid, a fydd ’na le i Dilys a’i ffrindiau?

Yn Y Cylch Cyfrin mae’r awdur yn cynnig cip tu ol i ddrws y garafán, lle mae’r merched yn gwnïo secwins ar ddillad perfformio newydd, ac yn troi drôr agored yn gawell glyd i’r babi newydd.

Mae’n codi’r llen ar hud a rhamant y big top ac yn ein tywys i realaeth y gwaith diflino o glirio carthion anifeiliaid o’r prif gylch, wellingtons a chotiau glaw yn cuddio secwins a sgidiau sgleiniog, a’r pacio a symud cartref diddiwedd.

Mae’n dangos dwylo caled merched y siglen uchel, y croen poenus tu ôl i’w pengliniau, a’r paratoi a’r gofal manwl all olygu’r gwahaniaeth rhwng symud yn osgeiddig yn nenfwd y babell, neu syrthio’n gelain i ganol y cylch.

Mae’n stori yn ein tywys o’r Almaen a chyfnod yr Ail Ryfel Byd, i ogledd Cymru ac ar draws y byd.

Fe gewch rhannu tristwch a hapusrwydd y cymeriadau arbennig yma, a chael blas ar ffordd o fyw sy’n prysur ddiflannu.

Mae’r awdur yn nabod y byd yma – bu’n rhan ohono, ac mae ei gariad at y syrcas a’i phobol yn amlwg.

Fe gewch eich hudo gan y nofel – mae meistr y cylch yn feistr ar ddweud stori dda hefyd.

Brysiwch i’w darllen, mae sedd wedi’i chadw i chi o dan gynfas y babell fawr. Mae’r sioe ar fin dechre!

Adolygiad gan Siân Thomas a gomisiynwyd gan Garreg Gwalch ar gyfer www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Magwyd Derfel Williams ym Morthmadog. Ymunodd â'r syrcas a teithio gyda Circus Fiesta a wedyn gyda'r Brodyr Fossett, Circus Olympus a'n olaf gyda Syrcas Bobby Roberts.