MAE prifardd a gododd y to wrth gael ei gadeirio ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd bellach wedi casglu ei gerddi ynghyd i’w cyhoeddi.

Yn 28 oed ar y pryd, ef oedd un o’r rhai ieuengaf erioed i gipio’r Gadair.

Carwyn Eckley yw Prifardd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd ac mae’i dalentau ar y mesurau caeth a rhydd yn amlwg yn gyson bob tro y bydd tîm Dros yr Aber yn ymddangos ar Dalwrn y Beirdd.

Yn enedigol o Ddyffryn Nantlle, aeth Carwyn i astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn y cwrs newyddiaduraeth darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae bellach yn newyddiadurwr ar Y Byd a’r Bedwar.

Dyma’i gasgliad cyntaf ac mae rhychwant ei ddiddordebau, ei lawenydd a’i ofidiau fel bardd yn loyw yn y cerddi hyn.

Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys nifer o ffotograffau, y rhan fwyaf yn eiddo i Lois, chwaer Carwyn.

Meddai Huw Meirion Edwards, un o feirniaid y Gadair yn 2024, am awdl fud-dugol Carwyn ar y testun ‘Cadwyn’: “Mae’r gerdd hon wedi ei chyfrodeddu’n gyfanwaith clòs, ond ceir yma linellau unigol o gynghanedd sy’n mynd â gwynt rhywun … Mae’r awdl hon yn ddathliad llachar o oroesiad y gadwyn honno, cadwyn y gynghanedd sydd yn annatod glwm wrth yr iaith ei hun.”

Mae Trochi ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru (£8.99), ar Gwales.com ac ar wefan www.carreg.gwalch.cymru.