BETH sydd gan Dafydd Iwan, Geraint Thomas a T. Llew Jones yn gyffredin? Mae’r tri yn ymddangos yn llyfr diweddaraf Medi Jones-Jackson sef Am Gymro! Yn dilyn llwyddiant Genod Gwych a Merched Medrus 1 a 2, mae hi’n bryd dathlu doniau’r dynion!
Cafodd Genod Gwych a Merched Medrus ei gyhoeddi yn 2019 a chafodd gryn dipyn o sylw wedi iddo gyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 a rhestr fer Llyfr y Flwyddyn yn y categori plant a phobl ifanc. Tro’r dynion ydy hi nawr i gael sylw wrth i Am Gymro! gyflwyno ffeithiau am 13 o ddynion ysbrydoledig o Gymru sy’n arbenigo yn eu meysydd penodol.
Bwriad y llyfr yw cyflwyno modelau rôl i fechgyn heddiw gan obeithio y bydd yn eu hysgogi i anelu’n uchel a gwireddu eu breuddwydion.
Mae’r llyfr hefyd yn dathlu llwyddiant y Cymry sydd wedi serennu yn eu cymunedau megis Dr Ganesh Subrahmanyam (un o’r doctoriaid cyntaf a ddaeth o India i Gymru), yn ogystal ag arwyr byd-eang megis Richard Burton a Gareth Bale. Hefyd, mae’r llyfr yn rhoi sylw haeddiannol i ambell arwr anghofiedig fel Billy Boston, Eric Jones a Lyn Evans.
Mae Am Gymro! yn llyfr deniadol a hwyliog, llawn gwybodaeth ddiddorol a lluniau lliwgar. Ceir codau QR hefyd i glipiau YouTube er mwyn dysgu mwy am yr arwyr. Yng nghefn y llyfr ceir gweithgareddau megis croesair, drysfa, cwis ar ffurf y profion darllen cenedlaethol, tasg goginio, tasg arlunio a mwy!
Dywedodd Medi Jones Jackson: “Dwi mor falch cael ychwanegu Am Gymro i’r gyfres o lyfrau sydd gen i.
“Dyma lyfr sy’n annog plant Cymru unwaith eto i ymfalchïo yn hanes eu cenedl a dathlu Cymry creadigol, anturus ac ysbrydoledig. Dwi’n wir gobeithio y bydd darllenwyr ifanc yn mwynhau’r llyfr ac yn joio dysgu am ein harwyr.”
Daw Medi Jones-Jackson yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy ond bu iddi symud i Aberystwyth fel myfyriwr a disgyn mewn cariad gyda’r ardal a bachgen o Gaernarfon.
Pan oedd Medi yn gweithio fel Swyddog Hybu Darllen i’r Cyngor Llyfrau cafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu ei llyfr cyntaf Genod Gwych a Merched Medrus oherwydd ei bod hi’n teimlo nad oedd merched Cymru yn cael digon o sylw.
Mae Medi hefyd yn fam i ddau ac mae ganddi ddiddordebau eang megis garddio, ioga, teithio, ffilmiau a sioeau cerdd.
Am Gymro! , Y Lolfa (£7.99)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.