Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd yn darlledu rhaglen ddogfen arbennig, Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro, fydd yn dilyn siwrnai’r cyflwynydd Mari Grug wedi ei diagnosis o ganser.

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C ar 26 Hydref am 9yh, yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron.

Ers iddi gael y diagnosis, mae Mari wedi dod yn lysgennad ar elusen Ymchwil Canser Cymru.

Cafodd y comisiwn ei gyhoeddi gan S4C ar yr un diwrnod â thaith dractor elusennol i godi arian at yr elusen, taith a gafodd ei threfnu gan gwmni Midway Motors.

Bu’r cyflwynydd, sy’n wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel un o gyflwynwyr Prynhawn Da a Heno, yn cymryd rhan yn y daith dractor ar ddydd Sadwrn 16 Awst.

Gan yrru tractor pinc, lliw sy’n gysylltiedig â chodi ymwybyddiaeth o ganser y fron, bu Mari yn arwain y cerbydau am ran o’r daith o gwmpas ardal Crymych, Mynachlog-ddu a Maenclochog, yn Sir Benfro.

Dywed Mari ei bod yn ddiolchgar am “yr holl ofal” mae’n ei dderbyn.

“Mae cael bod yn rhan o daith dractor yn fy milltir sgwâr gyda’r gymuned wledig sydd wedi bod yn gymaint o gefn i fi a’r teulu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn sbeshal iawn," meddai.

"Dwi’n ddiolchgar iawn i gwmni Midway Motors am adael fi i ymuno â nhw ac i gwmni T Alun Jones am ‘drysto’ fi gyda’r tractor pinc!

“Dwi’n gobeithio bydd y rhaglen yn dangos nad yw cael diagnosis o ganser metastatic yn golygu bod rhaid i fywyd stopio a newid yn gyfan gwbwl. Hefyd, hoffwn i weld y rhaglen yn annog pobl sydd â hanes o ganser yn y teulu i gael sgwrs am eu hopsiynau er mwyn atal y clefyd rhag effeithio a niweidio yn bellach.”

Meddai Iwan Rhys Roberts o Ymchwil Canser Cymru ei bod hi’n “anrhydedd mawr” i’r elusen gael Mari fel llysgennad:

“Mae cyfraniad Mari i’n gwaith trwy godi proffil yr angen i ymestyn ffiniau ymchwil canser yma yng Nghymru yn amhrisiadwy.

“Yn ogystal, mae ei hangerdd tuag at Ymchwil Canser Cymru, ei hegni, ei charedigrwydd a’i pharodrwydd i’n helpu – boed hynny trwy siarad yn gyhoeddus ac yn agored am ei siwrnai gyda chanser neu yrru tractor pinc trwy ei bro genedigol, yn anhygoel.

“Mae ymdrechion diddiwedd Mari – sydd yn fam a gwraig ifanc gyda swydd brysur, wrth iddi hi wynebu un o heriau mwyaf ei bywyd – heb amheuaeth wedi ysbrydoli a dylanwadau yn bositif ar gannoedd o bobl, a hoffwn ddiolch yn fawr iddi hi am gefnogi Ymchwil Canser Cymru.”

Dywed Shon Rees o Midway Motors, trefnwyr y daith: “Ni’n browd iawn i fod yn rhan o’r diwrnod arbennig yma gyda Mari. Ac rwy’n siŵr gyda thywydd da, cwmni da a’r ardal oll yn dod at ein gilydd, allwn godi gymaint o arian â phosib i’r elusen arbennig yma.”