MAE’R delweddau cyntaf o’r ail gyfres o ddrama afaelgar S4C Stad wedi'u rhyddhau.
Bydd y gyfres chwe phennod yn darlledu ar 9 Tachwedd am 9pm.
Mae’r gyfres yn dilyn helyntion teulu’r Gurkha a’u cymdogion yn ystad dai Maes Menai, lle mae’r cymeriadau’n aml yn wynebu sefyllfaoedd heriol, ond yn gwneud popeth o fewn eu gallu i oroesi.
Cariad, gwytnwch a chymuned sy’n ganolog i'r stori, a hynny wedi’i gyflwyno gyda dôs hael o hiwmor.
Dangoswyd cyfres gyntaf Stad yn 2022, yn ddilyniant o’r gyfres boblogaidd Tipyn o Stad ddaeth i ben yn 2008 ar ôl saith cyfres.

Cynhyrchir y gyfres gan Cwmni Da a Triongl, gydag Angharad Elen a Dafydd Palfrey yn storïo.
Meddai Gwenllian Gravelle, Pennaeth Drama S4C: “Rwy’n falch o groesawu trigolion Stad yn ôl i S4C ar ôl llwyddiant ysgubol y gyfres gyntaf. Mae’r gyfres newydd yn archwilio cymuned gyfoethog a bywiog Maes Menai mewn mwy o ddyfnder nag erioed, gan gyfuno adrodd straeon dwys â hiwmor pur."
Meddai Nora Ostler Spiteri, Cyd-Gyfarwyddwr Creadigol Triongl:"Mae wedi bod yn bleser cael bod nôl yng Nghaernarfon yn gweithio ar Stad. Mae’r tîm, dan arweiniad y cynhyrchydd Eryl Phillips, wedi gweithio’n galed i ddod ag ail gyfres llawn cyffro a throeon annisgwyl i’r sgrîn. Rydym ni’n edrych ymlaen yn arw nawr i’r gynulleidfa gael gweld ffrwyth y llafur.”

Meddai Martin Thomas, arweinydd drama Cwmni Da: “Rydym wrth ein boddau yn cyhoeddi dychweliad y gyfres ddrama unigryw Stad gan ddod â ffefrynnau cyfarwydd yn ôl i gartrefi ledled y genedl.
“Mae wedi bod yn bleser cydweithio â Triongl ac hefyd wedi bod yn fraint gweithio'n agos gyda phobl leol a chymunedau wrth logi lleoliadau, gan sicrhau bod y cynhyrchiad yn parhau i fod wedi'i wreiddio yng nghanol Caernarfon a'r cyffiniau.
“Mae'r gyfres newydd hon yn cael ei gyrru gan greadigrwydd ac ymrwymiad criw cynhyrchu gwych, gyda chyfleoedd gwerthfawr hefyd wedi'u creu ar gyfer talent newydd ar draws y diwydiant.
“Diolch i gefnogaeth Sgil Cymru, mae llawer o aelodau'r tîm wedi gallu cael profiadau proffesiynol unigryw, gan helpu i gryfhau a thyfu'r sector yng Nghymru.”
Bydd cyfle i'r cyhoedd fynychu dangosiad o’r bennod gyntaf o Stad yn Galeri, Caernarfon ar nos Fercher 22 Hydref am 19.00.
Yn dilyn y dangosiad bydd sesiwn holi ac ateb gyda gyda Gethin Evans yn holi aelodau’r cast, Manon Wilkinson a Llyr Evans, y sgriptiwr Lleucu Sion a’r cynhyrchydd Eryl Phillips.
Gellir archebu tocynnau i'r dangosiad drwy wefan BAFTA Cymru: Https://events.bafta.org/event/view.php?id=3635:652e-d055
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.