MAE Arad Goch yn dechrau tymor yr Hydref ar daith. Pedair wythnos llawn perfformiadau.

Maent yn teithio ledled Ceredigion a Sir Gar ac yn ymweld â Blaenau Ffestiniog gyda’u cynhyrchiad Colli Hi.

Crëwyd Colli Hi (’Meltdown’ yn Saesneg), yn wreiddiol gan Zeal Theatre o Awstralia.

Mae Zeal Theatre yn adnabyddus yng Nghymru am eu gwaith eiconig ‘Stones/Tafliad Carreg’, sydd wedi teithio sawl gwaith ac wedi bod yn rhan o gwricwlwm Drama CBAC.

Crëwyd y cynhyrchiad hynny hefyd mewn cydweithrediad â Chwmni Theatr Arad Goch.

Mae Colli Hi yn archwilio themâu amserol ac emosiynol sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, gan gynnwys ofn, iselder, gorbryder, straen, a dicter.

Mae Dwayne, bachgen 15 oed, yn ceisio byw o fewn teulu ‘normal’ sy’n cael ei lywio gan broblemau iechyd meddwl.

Mae ei chwaer hŷn wedi’i pharlysu gan ofn, mae ei fam o dan straen difrifol, ei chwaer fach yn gaeth i’r cyfryngau cymdeithasol, ei frawd bach yn crio’n barhaus, a’i dad folcanig ar fin ffrwydro.

Mae’r cynhyrchiad yn dilyn cyfnod ym mywyd Dwayne, wrth iddo straffaglu trwy ei fywyd fel arddegwr gyda heriau teuluol yn dod o bob cyfeiriad.

Maer cynhyrchiad wedi datblygu ers y perfformiad cyntaf yn ystod Gŵyl Agor Drysau 2024 – gŵyl ryngwladol Cwmni Theatr Arad Goch ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.

Fe wnaeth y ddrama gymaint o argraff ar y cwmni nes penderfynwyd cydweithio eto gyda Stefo Nantsou o Zeal Theatre, awdur/actor, sydd wedi dod draw o Awstralia i Aberystwyth i gyfarwyddo’r ddrama yng Nghanolfan Arad Goch. Maer ddrama ar gael yn y Gymraeg neu’r Saesneg, gyda’r fersiwn Gymraeg wedi’i chyfieithu gan yr actorion Owain Llŷr Edwards ac Iwan Charles.

Mae Colli Hi - Meltdown yn ddrama bwerus gyda pherfformiadau deinamig aml-gymeriad, yn cyfuno cerddoriaeth,drama, a chomedi, ac yn arbennig o berthnasol i bobl ifanc yn eu harddegau.