CYHOEDDWYD mai Heledd Wynn Newton, sy’n 21 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, yw Prif Gyfansoddwr yr Ŵyl.
Rhoddir y Fedal eleni gan Rheinallt a Rowenna Thomas, Caerdydd (Llanfairpwll a Phorthaethwy gynt), a rhoddir Gwobr Glynne Jones o Gronfa Ymddiriedolaeth Pendyrus (£400).
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Pwll Coch ac Ysgol Gyfun Glantaf, mae hi’n astudio gradd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen. O dan arweiniad ei hathrawes delyn, Catrin Finch, mae Heledd wedi ennill ysgoloriaeth i astudio gradd meistr yn yr Academi Gerdd Frenhinol ym mis Medi ar y delyn, lle mae hi’n bwriadu parhau gyda’i chyfansoddi hefyd.
Daeth 10 ymgais i law, gyda’r beirniaid Gareth Glyn ac Owain Llwyd yn nodi fod yr “amrywiaeth o ran arddull, offeryniaeth a genre yn adlewyrchu dyfnder y dalent gyfansoddi ifanc sydd ar waith yng Nghymru heddiw.”
Mae Heledd wedi cyrraedd y tri uchaf yn Y Fedal Gyfansoddi ddwywaith o’r blaen, yn 2020 a llynedd yn Eisteddfod Dur a Môr, Parc Margam.
Meddai Heledd: “Dechreuais gyfansoddi yn 7 oed. Fel aelod o Gôr Heol y March o dan arweiniad Eleri Roberts, a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o dan arweiniad Tim Rhys Evans dwi wedi cael fy nghyflwyno i weithiau corawl amrywiol iawn eu harddull, sydd wedi cael dylanwad ar fy ngwaith chyfansoddi. Dwi’n aelod brwd o’r gymuned gyfansoddi arbrofol yn Rhydychen ac yn ddiweddar ges i’r cyfle i fod yn rhan o weithdy cyfansoddi gyda Chantorion y BBC.”
Roedd y beirniaid yn unfrydol mai cylch o ganeuon corawl SATB pedwar symudiad, wedi'i seilio ar awdl o'r Gododdin gan Aneirin oedd yn ennill y fedal eleni: “Mae'r cyfansoddwr wedi ymdrwytho yn yr Hengerdd ac yn ymateb iddi gydag ieithwedd gerddorol sy'n gwbl gyfoes gan gynnwys tonyddiaeth estynedig, defnydd o glissandi a sibrwd, a rhannu'r côr i gymaint ag wyth rhan annibynnol. Dyma lais proffesiynol, cyfoes a phwysig ar gyfer dyfodol cerddoriaeth Gymraeg.”
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Iestyn Seiriol o Landdaniel, Ynys Môn, a Rhydian Llŷr Williams o Lanrug oedd yn drydydd.
Gellir gwylio rhaglenni uchafbwyntiau wythnos ar S4C Clic a gellir gweld holl ganlyniadau’r Ŵyl drwy ymweld â’r wefan s4c.cymru/urdd

.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.