MAE babanod a phlant ifanc iawn yn rai o wledydd Affrica cael eu cadw'n gynnes diolch i ymdrechion un o stiwardiaid yr Eisteddfod Genedlaethol a'i ffrindiau.

Pob cyfle geith hi mae Rhian Thomas yn codi ei nodwyddau gwau ac yn mynd ati i greu siwmper syml bychan.

Wedi ei cwblhau maent yn cael eu danfon i elusen sy'n eu danfon i rannau tlawd o wledydd Affrica.

Dywedodd Rhian, sy'n byw yn ardal Dolgellau, bod y siwmperi yn cael eu galw'n siwmperi ‘Pysgodyn a Sglodion’ oherwydd mewn rhannau gwir dlawd o Affrica mae rhai babanod yn gadael yr ysbyty wedi’u lapio mewn papur newydd gan nad oes gan eu teulu ddim byd arall i’w ddefnyddio.

"Dyna pam yr enw, gan fod ‘pysgodyn a sglodion’ yma yng Nghymru yn draddodiadol yn cael eu lapio mewn papur newydd i gadw’r bwyd yn gynnes," meddai.

Mae Rhian wedi bod yn gweu siwmperi ers blynyddoedd ac ddim yn siwr faint mae wedi eu gwneud."

Dwi'n gweu ers blynyddoedd ac yn gwneud rhain ers sbel rwan.

“Diw'n gweu pob gyfle gai, hyd yn oed ar faes yr Eisteddfod.

“Dwi ddim yn prynu gwlan dwi ond yn defnyddio gwlan nad oes gennai ar ol neu ddim mwy o ddefnydd iddo.

“Rwyn falch fy mod yn gwneud rhywbeth i gadw rhywun yn gynnes pan maent yn fregus," meddai

Er ei bod yn danfon y siwperi i'r elusen mae Rhian, sy'n fam i bedwar a nain i 12, hefyd yn danfon rhai o'i siwmperi i Uganda.

"Dwi'n aelod o Gôr Bro Meirion ac mae un ohonym yn mynd i Uganda pob blwyddyn i weithio'n wirfoddol.

“Aeth a rhai o'r siwmperi hefo hi llynedd ac aeth rhai ohonynt i'r uned famolaeth," meddai.

Mae Rhian hefyd yn crosio ond mae cynnyrch y grefft hon yn aros agosach i gartref.

"Dwi wedi crosio blanced i bod un o'r wyrion ond fyddai ddim yn gwnio," meddai.Y

n Eisteddfodwr brwd mae Rhian wedi bod yn stiwardio yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ac mae'n edrych ymlaen i'r Eisteddfod ar garreg drws y flwyddyn nesaf.

"Dydy'r côr ddim yn cystadlu eleni and bydd rhaid i ni feddwl am wneud yn Maldwyn Meirionnydd," ychwanegodd.