MAE Rhiannon Lloyd Williams yn cyhoeddi ei nofel gyntaf i oedolion, XOXO (Y Lolfa).

Disgrifir hi fel “nofel lawn calon sy’n codi dy galon” gan Francesca Sciarrillo ac fel “llythyr caru i chwaeroliaeth” gan Sioned Erin Hughes.

Meddai Rhiannon: “Daw gwir ysbrydoliaeth XOXO o fy mhrofiad personol o dorcalon.

“Mewn ymgais i drio gwneud synnwyr o fy nheimladau ac i deimlo’n llai unig, troais at lyfrau am dorcalon a’r broses o ddod dros rhywun.

“Ar y pryd, cefais drafferth dod o hyd i lyfrau Cymraeg oedd yn ddigon ysgafn – felly darllenais lyfrau fel Really Good, Actually gan Monica Heisey a Ghosts ac Everything I Know About Love, y ddau gan Dolly Alderton.”

Er bod XOXO yn cychwyn gyda sws sy’n chwalu bywyd Loti, nid nofel am dorcalon yn unig mohoni.

Mae’n stori am chwaeroliaeth, am y ffrindiau a’r teulu sy’n gefn, am ddod i nabod dy hunan yn iawn yn dy ugeiniau ac am ddarganfod dy ddyheadau.

Mae Loti’n sylweddoli ei bod hi am deithio’r byd. Wrth iddi fentro mae pob antur, anffawd, deigryn a gwên yn cael ei gofnodi yn ei dyddiadur.

Ychwanegodd Rhiannon, sy’n wreiddiol o Gaerdydd ond sy’n bellach yn byw yng Nghaernarfon: “Mae’n nofel obeithiol. Addewais i fy hun y byddwn yn ysgrifennu nofel Gymraeg y byddwn i wedi gwerthfawrogi ei darllen – llyfr digon pytiog fyddai’n dilysu’r teimladau.

“Un fyddai’n atgoffa pwy bynnag oedd angen clywed hynny bod ’na olau ar ddiwedd twnnel torcalon ac anturiaethau i’w cael,” meddai Rhiannon Lloyd Williams.

Bydd XOXO yn cael ei lansio’n swyddogol ar y 1af o Hydref yn Llofft, y Felinheli am 7 o’r gloch. Caryl Bryn bydd yn holi Rhiannon Lloyd Williams.

Mi fydd yna lansiad hefyd yn y Grange, Grangetown, Caerdydd am 7 o’r gloch nos Fercher 7fed o Hydref gyda Liz Clements yn holi Rhiannon.

Mae XOXO gan Rhiannon Lloyd Williams ar gael 24 Medi (£11.99, Y Lolfa).