BYDD y cyn-ddyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens yn cyflwyno cyfres newydd ar S4C fydd yn cynnig y cyfle i unigolion drawsnewid eu bywydau.
Bydd Fferm Ail Gyfle (teitl dros dro) yn croesawu criw o bobl ifanc fydd yn goresgyn heriau drwy gynorthwyo ar y fferm, a hynny i gyd dan lygad barcud Nigel.
Ers iddo ymddeol fel dyfarnwr rhyngwladol yn 2020, mae’r cyflwynydd Jonathan wedi bod yn brysur ar ei fferm, yn gweithio’r tir a gofalu am yr anifeiliaid.
Mae’r gyfres, cynhyrchiad Tŷ’r Ddraig (sy'n rhan o grŵp Workerbee Banijay UK) a Captain Jac ar gyfer S4C, yn castio ar hyn o bryd ac mae pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed yn cael eu hannog i ymgeisio.
Yn fwy penodol, mae cynhyrchwyr Fferm Ail Gyfle yn awyddus i glywed gan bobl ifanc sy’n chwilio am ddechrau newydd a’r cyfle i ddarganfod pwy fedran nhw fod, neu’r sawl sy’n teimlo’n ddigyfeiriad ac yn awchu am her newydd.
Byddan nhw’n cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, tra’u bod nhw’n byw a gweithio mewn lleoliad gwledig.
Wrth law i gynorthwyo Nigel bydd Rhys Colnet, ffermwr o Sir Benfro sy’n adnabyddus i ddilynwyr S4C Hansh am ei ymddangosiadau rheolaidd ar y platfform.
Wrth iddo edrych ymlaen at y gyfres, dywedodd Nigel Owens: “Dwi’n gyffrous i dorchi llewys ar y gyfres newydd hon, a fydd yn rhoi cyfle i griw o bobl ifanc gael dechrau newydd
“ O’r cae rygbi i gaeau’r fferm, dwi wedi delio â nifer o sefyllfaoedd heriol ar hyd y blynyddoedd, a bydd y gyfres hon yn dangos sut mae unrhyw beth yn bosib gyda thamed o benderfyniad a dyfalbarhad.”
Dywedodd Llinos Wynne, Pennaeth Dogfen a Ffeithiol Arbenigol S4C: “Mae Nigel yn ffrind ffyddlon i ni yn S4C ac yn un o’m wynebau mwyaf cyfarwydd.
“Bydd y gyfres hon yn rhannu angerdd Nigel am amaethu wrth iddo gefnogi pobl o amrywiol gefndiroedd i ddatblygu gwytnwch yn wyneb heriau bywyd. Os ydych chi’n awyddus i gymryd rhan, peidiwch â bod yn ddiarth, ymunwch â Nigel ar y buarth.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio, e-bostiwch [email protected] am fwy o wybodaeth.
Bydd Fferm Ail Gyfle yn darlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer yn 2027.



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.