MAE Rhun ap Iorwerth wedi siarad yn agored am ei ddiweddar fam mewn rhaglen ddogfen newydd.

Roedd Prif Weinidog Cymru yn hel atgofion am Gwyneth Morus Jones fel rhan o raglen ddogfen bry-ar-y-wal newydd ar S4C, sy’n rhoi mewnwelediad unigryw i’w dri mis cyntaf wrth y llyw.

“Mi ddoth hi’n thema yn y dyddiau wedi’r etholiad i bobl gofio am y rhai o’dd ddim yma a deud ‘Waw, mi fydden nhw ‘di bod mor falch o weld hyn’,” meddai.

“Mi oedd gen i y person hwnnw hefyd, wrth gwrs, a Mam oedd honno.”

Roedd Mrs Morus Jones a’i gŵr Edward Morus Jones yn aelodau gweithgar o Blaid Cymru am flynyddoedd lawer.

Bu farw Mrs Morus Jones ym mis Rhagfyr 2012, mater o fisoedd cyn i Mr ap Iorwerth gael ei ethol i’r Senedd fel aelod Ynys Môn.

“Ma’ meddwl bod y person yna mor bwysig yn fy mywyd i ddim wedi bod yna yn rhywbeth dwi ‘di meddwl lot amdano fo, ond mae hi hefyd yno. Bob dydd,” ychwanegodd.

Yn y rhaglen ddogfen, Rhun ap Iorwerth: Y Tri Mis Cyntaf, mae chwaer arweinydd Plaid Cymru, Awen Iorwerth, hefyd yn adlewyrchu ar ddylanwad eu mam.

“O’dd Cymru, y Gymraeg yn bwysig iawn i Mam. O’dd o’n rhan ohoni erioed. Yr Eisteddfod, canfasio dros Blaid Cymru,” meddai.

Mae’r rhaglen (cynhyrchiad Boom Cymru a Zwwm Films ar gyfer S4C) hefyd yn dilyn Rhun ap Iorwerth yn yr oriau wedi etholiad Senedd mis Mai.

Wrth ymateb i rai o’r canlyniadau cynnar, meddai: “Beth sydd wedi digwydd drwy’r dydd [wrth] ‘dan ni ‘di gweld canlyniadau’n dod i mewn, ydy, fyddwn i’n deud cryfhau a chadarnhau’r newid gwbwl hanesyddol ‘dan ni ‘di gweld heddiw ‘ma yn hanes gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r teimlad o gyfrifoldeb yn fawr.”

Bydd Rhun ap Iorwerth: Y Tri Mis Cyntaf ar S4C, S4C Clic, a BBC iPlayer o 10 Medi.