AR ôl deffro o’i drwmgwsg yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a cherdded drwy ddalgylch Eisteddfod y Garreg Las , daeth taith yr Arglwydd Rhys i ben gyda dathliad enfawr yng Nghastell Aberteifi, ddydd Sadwrn 27 Mehefin.
Daeth tyrfa o dros 8,000 o bobl i wylio pyped pum metr o uchder o’r Arglwydd Rhys a grëwyd gan Theatr Byd Bychan, Aberteifi yn dychwelyd yn ôl i’w gartref fel uchafbwynt i ddathliadau 850 mlwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cynhaliwyd diwrnod o weithgareddau a pherfformiadau yn y castell, gyda gorymdaith ysblennydd drwy strydoedd y dref ac ar yr Afon Teifi’n binacl i’r cyfan, wrth i’r Eisteddfod ail-greu cyffro’r Eisteddfod gyntaf yn 1176, gyda beirdd a chantorion yn cyrraedd ar gychod a cheffylau i berfformio o flaen yr Arglwydd Rhys.
Lluniau: Aled Llywelyn
Bu Yr Arglwydd Rhys ar daith eiconig o amgylch ardal y Garreg Las, gan gychwyn yn Nhyddewi, pan ddadorchuddiwyd Cadair a Choron Eisteddfod 2026, a theithio i Genarth, Castell Newydd Emlyn, Llangrannog, Talgarreg, Wdig, Maenclochog ac Aberteifi.
Cafodd Yr Arglwydd gwmni ei gi ffyddlon, Teifi, pyped enfawr ar olwynion wedi ei greu gan Skeleton Crew o Gilgerran, wrth deithio drwy’r dalgylch. Pan ddychwelodd i Aberteifi ar ddiwedd y daith, ymunodd gorymdaith lliwgar o berfformwyr, grwpiau cymunedol lleol, pwyllgorau’r Eisteddfod a chriw o fleiddiaid theatr stryd ddaeth yr holl ffordd o Ŵyl Celfyddydau Stryd Rhyngwladol Spraoi, Waterford yn Iwerddon.
Wrth edrych yn ôl ar yr wythnos, dywedodd John Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod y Garreg Las: “Byddai wedi bod yn fraint arwain pwyllgor gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol unrhyw flwyddyn, ond mae cael gwneud pan mae’r Brifwyl yn dathlu ei 850 mlwyddiant wedi bod yn brofiad cwbl arbennig.
“Mae’r wythnos ddiwethaf wedi bod yn wefreiddiol. Rydyn ni wedi bod â’r Eisteddfod allan i gymunedau’r Garreg Las yn y ffordd fwyaf gweledol bosibl, ac mae’r ymateb wedi bod yn arbennig iawn. Mae’r trigolion lleol wedi dod allan i gefnogi a rhyfeddu ar yr Arglwydd Rhys a Teifi, ac wedi cael bod yn rhan o seremoni a digwyddiad yn eu cymuned cyn yr ŵyl ei hun.
“Rwy’n gobeithio y byddai’r Arglwydd Rhys ei hun wedi mwynhau’r daith, ac yn arbennig y dathliad ddydd Sadwrn, oedd yn gyfle i greu fersiwn fodern o’r hyn ddigwyddodd ar ddydd Nadolig 1176, wrth i bawb ymgynnull ar gyfer yr Eisteddfod gyntaf. Mae 850 mlynedd yn gyfnod hirfaith, ac mae’n anhygoel fod yr Eisteddfod yn dal i ddatblygu ac esblygu’n flynyddol ac yn ŵyl ddeinamig a modern sy’n cynnig rhywbeth i bawb.
“Hoffwn ddiolch o galon i bawb fu ynghlwm â’r prosiect, o’r egin syniad gwreiddiol a ddatblygwyd gan swyddogion yr Eisteddfod a’n criw diwyd ni o bwyllgorau lleol, i’r ecstrafagansa anhygoel ddaeth yn fyw o flaen ein llygaid dros yr wythnos ddiwethaf, diolch i’r tîm creadigol, dan arweiniad Marc Rees.
“Diolch hefyd i’n hariannwyr hael. Hebddyn nhw, ni fydden ni wedi gallu cynnal y fath brosiect. Diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru am adael i ni wireddu’r fath syniad, a diolch i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, Culture Ireland, Prifysgol Aberystwyth a Chastell Aberteifi am eu cefnogaeth hael dros y misoedd diwethaf.
“Ac yn olaf – i ateb cwestiynau pawb - bydd yr Arglwydd Rhys yn dod i’r Eisteddfod. Fe fydd yn cyrraedd y Maes ar ddydd Sadwrn 1 Awst, a bydd cynrychiolwyr o’r gymuned lleol yn rhan o seremoni arbennig i’w groesawu’n ôl i’r Eisteddfod – ac wrth gwrs, fe fydd Teifi’r ci yn ei ddilyn yn ffyddlon, yn union fel y gwnaeth drwy gydol yr wythnos.”





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.