SUT allwn ni chwilio am hapusrwydd ym mhob cyfnod o fywyd a mabwysiadau arferion neu ffyrdd o feddwl sy’n rhoi hwb i godi ein hwyliau? Dyna rai o’r cwestiynau sy’n cael eu trafod yng nghyfrol newydd Iola Ynyr, a ddisgrifiwyd gan Non Parry yn “daith gyffrous a gwerthfawr o hunan ddarganfod.”
Mae Codi Hwyliau – Ysgrifau ar Hapusrwydd (Y Lolfa) yn edrych yn onest ar heriau a sut i hudo’r golau allan o’r cysgodion. Ochr yn ochr â straeon personol yr awdur ceir ymarferion a chyngor ymarferol ar sut i gael y gorau ar y meddwl a’i ystyfnigrwydd.
Meddai’r awdur: “Mae diogelu fy modlonrwydd yn y byd a darganfod hapusrwydd wedi bod yn rhywbeth mae raid i mi roi sylw iddo fo yn barhaus
“ Dwi wedi dioddef hefo iselder ar adegau gwahanol o mywyd. Ers dod i adferiad oddi wrth fy alcoholiaeth, does gynna i ddim o’r ‘ddihangfa gyfleus’ o yfed alcohol ac mae’n rhaid i mi ddysgu bod yn effro i bob emosiwn a dysgu sut i gyfeirio fy ffordd yn ddiogel trwyddyn nhw.”
Gellir darllen y gyfrol o glawr i glawr neu taro mewn i ddarllen pennod bob hyn a hyn. Mae pob pennod yn cynnwys casgliad o brofiadau personol yr awdur sydd yn delio gydag emosiynau gwahanol o ddyfalbarhau trwy boen i lawenhau, o fod eisiau aros yng nghaead y galon i deimlo gwreichion mwyaf disglair o wefr byw yn hapus.
Ar ddiwedd pob pennod mae yna lun gan yr arlunydd Rhian Llywelyn Bere ac ymarfer i wneud i chi feddwl ac ystyried.
Meddai Iola: “Mae’r gwahoddiadau i fyfyrio neu ddychmygu sefyllfaoedd i leddfu poendod ar gynffon pob pennod yn gyfle i arbrofi hefo syniadau newydd ar sut i godi hwyliau.
“Trwy ddelweddau hyfryd Rhian Llywelyn Bere a mymryn o ‘nudges’ geiriol gen i, mae’n rhoi cyfle i newid trywydd ein meddwl.
“Mi fyswn i wrth y modd yn meddwl y gallai’r ymarferion fod yn hwyl ac yn help i adlewyrchu a tanio ffordd newydd o feddwl yn gadarnhaol am ein hunain ac eraill.”
Meddai Non Parry: “Mae Iola yn ymddiried ynom ni fel y gallwn ninnau ymddiried ynom ein Hunain. Mae hi’n rhannu profiadau personol ac yn cynnig ymarferion hollol hyfryd i’n datgloi a’n rhyddhau o’n hofnau.”
Mae Codi Hwyliau yn dilyn llwyddiant ei chyfrol hunangofiannol gyntaf, Camu, enillydd Llyfr y Flwyddyn yn 2025.
Meddai Iola: “Mae Camu wir wedi bod yn ffordd anhygoel i mi brosesu fy mywyd a gwneud synnwyr ohono.
“Roedd yna gymaint o bobl yn dod ata i yn mynegi mod i wedi bod yn ddewr yn rhannu mhrofiadau ond roedd yna ollyngdod o’i chreu ac os ydi hynny yn codi’r llen ar dabŵ trafod dibyniaeth, wel mae hynny yn fy ngwneud i’n hapus braf.
“Galla i dal ddim coelio yn iawn mod i wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn hefo Camu ond dwi mor ddiolchgar am y cyfleon sydd wedi deillio o hynny.
“Gobeithio y bydd y straeon yn diddanu pobl ac yn gwneud iddyn nhw uniaethu o ran yr heriau rydym ni gyd yn eu wynebu.”
Bydd Codi Hwyliau yn cael ei lansio’n swyddogol ar am 1:30yp ar ddydd Sul 12 Gorffennaf yng Ngerddi’r Emporiwm, Palas Print yn rhan o Ŵyl Arall. Leah Gaffey fydd yn holi Iola Ynyr.
Mae Codi Hwyliau gan Iola Ynyr ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.