GYDA llai nag wythnos i fynd tan Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, mae S4C wedi cyhoeddi’r tîm cyflwyno o’r ŵyl sy’n cynnwys rhai wynebau newydd, ynghyd â mwy o gyfleon i ddal i fyny gyda’r cystadlu ar-lein. Yn ogystal, bydd is-deitlau Saesneg ar gael ar holl raglenni’r Eisteddfod er mwyn i bawb eu mwynhau.
Eleni, bydd yr Eisteddfod ym Mharc Margam, Port Talbot. Fel brodor o’r ardal, bydd Sarra Elgan yn agor wythnos o ddarlledu gyda’r rhaglen Croeso i’r Eisteddfod ar ddydd Gwener 23 Mai i gyflwyno ei hardal enedigol.
Bydd Elen Wyn, seren cyfres BBC1, Traitors, hefyd yn ymuno â’r criw cyflwyno ar gyfryngau cymdeithasol S4C dros yr wythnos. Llynedd, cafodd cynnwys cyfryngau cymdeithasol S4C o Eisteddfod yr Urdd 2024 ei wylio dros 5 miliwn o weithiau, gan gadarnhau’r platfformau cymdeithasol fel un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o gael blas o’r ŵyl.
Trystan Ellis-Morris a Heledd Cynwal fydd yn dychwelyd i arwain y darllediadau dyddiol, ynghyd ag Alun Williams a Lily Beau o’r Maes, a bydd Mari Lovgreen yn cefnogi’r cystadleuwyr brwd ar lwyfan y canlyniadau.
Meddai Sarra Elgan: "Dwi wrth fy modd bod Eisteddfod yr Urdd – gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop - yn dod i’r ardal lle ges i fy magu eleni. Mae wedi bod yn brofiad arbennig cael rhannu harddwch, ysbryd a chymuned yr ardal sydd mor agos at fy nghalon yn y rhaglen yma. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i ymweld â Faes yr Eisteddfod a theimlo’r holl gyffro’n fyw yr wythnos nesaf. Pob lwc i bawb sy’n cystadlu.”
Ychwanegodd Elen Wyn am y cyfle: “Ro’n i wedi gwirioni pan gefais y cynnig i gyflwyno ar lwyfannau cymdeithasol S4C eleni yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd. Dwi wedi cystadlu yng nghystadleuaeth yr Unawd Merched bob blwyddyn ers ysgol gynradd, ac eleni yw'r flwyddyn gyntaf lle dwi’n i'n rhy hen i gystadlu, felly'n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o'r ŵyl mewn ffordd wahanol y tro hwn!
“Mae'r Eisteddfod yn agos iawn at fy nghalon gan ei bod yn ffordd mor unigryw o ddathlu ein diwylliant yng Nghymru. Bydd gallu rhannu'r hwyl, y dalent a'r eiliadau y tu ôl i'r llenni yn bleser mawr.”
Ffordd newydd i ddal i fyny
Bydd S4C yn darlledu’n fyw o’r maes 10.30yb tan 6.30yh gyda’r rhaglen uchafbwyntiau bob nos am 8.00yh. Mae’r holl raglenni ar alw ar Clic a BBC iPlayer gydag is-deitlau Saesneg.
Yn ogystal, bydd S4C yn ffrydio holl gystadlu’r dydd eto o’r Pafiliwn Coch, Gwyn a Gwyrdd o 8.00 y bore hyd at ddiwedd y cystadlu ar Clic. Am y tro cyntaf, bydd hefyd yn bosib edrych yn ôl ar y ffrwd ar Clic ar ddyfeisiadau desgtop i ail-wylio cystadlaethau.
Bydd y ffrydiau ar gael am gyfnod o 3 diwrnod wedi’r cystadlu a bydd posib sbwlio (mynd nôl) ar y ffrwd am y cyfnod drwy wylio ar gyfrifiadur neu liniadur. Er mwyn gwylio bydd angen mynd i adran ‘Ein pigion’ ar dop tudalen cartref Clic.
Ar y Maes
Ar gyfer y rheiny fydd yn ymweld â’r Maes ym Mharc Margam, bydd cyfle i gael cipolwg ecsgliwsif ar gyfresi newydd ym mhabell S4C, a mwynhau disgo tawel.
Gyda’r Ewros yn agosáu, bydd S4C hefyd yn gosod her i ymwelwyr i’r babell i seiclo’r pellter o Gymru i’r Swistir erbyn diwedd yr wythnos.
Ar gyfer plant bach a hŷn, bydd sioeau Cyw a Stwnsh i’w mwynhau yn ‘Yr Adlen’.
I weld amserlen o’r holl sioeau, yn ogystal â gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ym mhabell S4C ewch i https://s4c.urdd.cymru/cy/