YR Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd fydd siaradwr gwadd cyntaf sesiynau 2025-26 cymdeithas Maes a Môr, Ffostrasol a’r Cylch.

Ac yntau newydd gyhoeddi’r gyfrol Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru bydd y sylwebydd gwleidyddol yn rhoi cyflwyniad ynglŷn â’r rhesymau dros sefydlu’r blaid.

Cynhelir y digwyddiad yn Nhafarn Ffostrasol am 7.30pm, nos Lun, 15 Medi ac mae croeso i bawb.

Bydd hwn yn rhoi cychwyn ar gyfres o gyflwyniadau amrywiol sy’n cynnwys yr awdur ar darlledwr Jon Gower yn sôn am adar, Dr Rhiannon Ifans yn sôn am draddodiad y Plygain yng Ngheredigion a’r hanesydd celf Peter Lord yn sôn am gelf yng Nghymru.

Yn ogystal, mae Maes a Môr yn trefnu cyngerdd gyda Delwyn Siôn, Myfyr Isaac a Geraint Cynan yn Neuadd Talgarreg ar nos Sadwrn, 11 Hydref i godi arian at elusennau dyngarol yn Gaza.