MAE nifer y swyddi yng Nghymru sydd wedi’u cefnogi gan S4C wedi cynyddu i fwy na 2,500, yn ôl ymchwil newydd.

Mae hynny’n gynnydd o dros 370 o swyddi ers yr adroddiad ymchwil diwethaf yn 2022/23.

Cyfrannodd S4C £150.3m i economi Cymru yn ystod 2024/25, er gwaethaf gostyngiad mewn termau real yng nghyllid ffi’r drwydded o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl.

Mae’r canfyddiadau yn rhan o ymchwil newydd gan gwmni Wavehill, a gafodd ei gomisiynu gan S4C.

Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno gan Brif Weithredwr S4C Geraint Evans, ar ail ddiwrnod cynhadledd Dychmygu’r Dyfodol - y cyntaf i gael ei chynnal ar y cyd rhwng S4C a TAC

Dyma rai o brif benawdau’r adroddiad:

  • Ar gyfer pob £1 o incwm ffi’r drwydded a dderbyniodd S4C, cafodd £1.59 ei gynhyrchu i economi Cymru.
  • Cafodd mwy na tair punt o bob pedair (£82.2m) ei wario ar fusnesau sydd â’u pencadlys yng Nghymru, neu ar weithwyr llawrydd sydd wedi eu lleoli yng Nghymru.
  • Roedd effaith S4C i'w theimlo ledled Cymru gyda 57% o’r gwariant hynny y tu allan i Gaerdydd, pum pwynt canran yn uwch nag yn 2022/23.
  • O gadwyn gyflenwi S4C, cafodd 93% o effeithiau cyflogaeth a gwerth ychwanegol gros (GVA) ei gadw yng Nghymru, sy’n dangos rôl S4C fel angor y sector cynhyrchu yng Nghymru.
  • Fe wnaeth S4C ymwneud â 1,190 darparwr a 58 sector gwahanol yn 2024/25, cynnydd o 213 darparwr ers yr adroddiad diwethaf.

Daw’r newydd am y cynnydd wedi i S4C lansio strategaeth newydd, Mwy Na Sianel Deledu, sy’n blaenoriaethu cyd-weithio gyda phartneriaid i weld Cymru’n ffynnu.

Gyda ffilmio ail gyfres Y Llais yn dechrau yn yr wythnosau nesaf, mae’r adroddiad yn amcangyfrif bod y gyfres gyntaf wedi cyfrannu £3.3m mewn gwerth ychwanegol gros (GVA) i economi Cymru gan greu 72 swydd yng Nghymru.

Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Tra bod ein ffocws ar y dyfodol gyda’n strategaeth ddiweddar, mae’r adroddiad hwn yn gyfle i ni adlewyrchu ar beth rydym ni eisoes wedi’i gyflawni yn S4C yn ddiweddar.

“Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod S4C yn barod yn Fwy Na Sianel Deledu, gyda buddsoddiad S4C, a’r sector cynhyrchu ehangach, yn allweddol i alluogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru wireddu eu llawn botensial.

“Mae yma seiliau cadarn i ni adeiladu arnynt wrth i ni ymdrechu i ehangu gwylio gyda’n cynnwys, trawsnewid i fod yn ddigidol-yn-gyntaf a chydweithio gyda’n partneriaid i weld Cymru’n ffynnu.”

Dywedodd Delyth Evans, Cadeirydd Bwrdd S4C: “Pan mae S4C yn gweithio ochr yn ochr â’r sector cynhyrchu, mae’r effeithiau’n bellgyrhaeddol – yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.

“Mae hi’n briodol bod yr adroddiad hwn yn cael ei ryddhau yn ystod cynhadledd ar-y-cyd gyntaf S4C a TAC, wrth i ni ddathlu’r berthynas iach sydd yn bodoli rhwng S4C a’r sector ac wrth i ni edrych gyda brwdfrydedd tua’r dyfodol.”

Dywedodd Gweinidog Cyfryngau Llywodraeth y DU, Ian Murray: “Dwi’n gwybod pa mor bwysig yw S4C wrth gefnogi cynnwys Cymraeg – o raglenni newyddion sy’n diweddaru cynulleidfaoedd, i ddramâu, rhaglenni plant a rhaglenni dogfen.

“Nid yn unig yw e’n parhau i ddarparu adloniant ac ychwanegu gwerth cymdeithasol, ond mae hefyd yn cefnogi’r economi leol.

“Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo’n llwyr i gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Byddwn yn defnyddio’r Adolygiad Siarter sydd ar y gorwel i edrych ar sut y gallwn gefnogi S4C a darlledu ieithoedd lleiafrifol.”

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant: "Mae'r adroddiad hwn yn dangos rôl hanfodol S4C wrth gefnogi swyddi a thwf economaidd ledled Cymru.

"Mae tyfu i gefnogi dros 2,500 o swyddi tra'n dychwelyd £1.59 i economi Cymru am bob £1 o incwm ffi'r drwydded yn dangos gwir werth buddsoddiad mewn darlledu Cymraeg, gan gynnwys buddsoddiad Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol mewn cyfleusterau fel Stiwdios Aria, ac mewn sioeau poblogaidd S4C fel Cleddau, Egin Bach a Hafiach.

"Rwy'n arbennig o falch o weld gwariant yn cyrraedd cymunedau y tu allan i Gaerdydd, gan helpu i sicrhau bod ffyniant yn cael ei ledaenu ar draws Cymru gyfan."