HEDDIW ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, cyhoeddwyd bod y ffilm ffantasi gofod eiconig o 1977 Star Wars: A New Hope gan Lucasfilm a Disney yn mynd i gael ei dybio’n Gymraeg, mewn cydweithrediad ag S4C a Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol.
Bydd y ffilm, Star Wars: Gobaith Newydd, yn cael ei darlledu ar S4C ac ar draws ei llwyfannau digidol o ddydd Nadolig ymlaen. Daw'r newyddion cyn pen-blwydd y ffilm yn 50 oed yn 2027.
Mae rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru yn arwain y cast yn y fersiwn Gymraeg newydd, gan gynnwys Matthew Rhys fel Han Solo, Rhys Ifans fel Obi-Wan Kenobi, ac Aimee-Ffion Edwards fel y Dywysoges Leia. Mark Lewis Jones fu’n chwarae cymeriad yn Star Wars: The Last Jedi, yw Darth Vader, tra bod Osian Morgan sydd yn prysur gwneud enw i’w hun, yn lleisio Luke Skywalker. Mae'r cast ehangach yng Nghymru yn cynnwys Llyr Ifans (C-3PO), Nia Roberts (Modryb Beru), Richard Harrington (Grand Moff Tarkin), Owain Arthur (Arweinydd Coch), a Rhodri Meilir (Arweinydd Aur).
Cyfarwyddwyd y dub Cymraeg gan Ellyn Stern a'i gynhyrchu gan Michael Kohn, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dosbarthu Lucasfilm.
"Rydyn ni'n gyffrous iawn am y prosiect hwn am sawl rheswm," eglura Kohn. "Rydw i wedi bod yn rhan o ychydig o dubs ieithoedd brodorol o Star Wars dros y blynyddoedd sy'n anelu at gadw ac adfywio diddordeb mewn dysgu'r ieithoedd. Maen nhw wedi bod yn hynod lwyddiannus nid yn unig yn eu cymunedau ond yn rhyngwladol hefyd. Mae'r cyfle i ddathlu'r Gymraeg trwy Star Wars yn un na allwn ei golli."
Mae Cyd-lywydd Lucasfilm, Lynwen Brennan, a gafodd ei geni a'i magu yng Nghymru, wrth ei bodd y bydd dathliadau hanner canmlwyddiant A New Hope yn cynnwys y dub unigryw hwn o'r ffilm. "Mae gan Gymru hanes mor gyfoethog o adrodd straeon ac iaith delynegol hardd. Nid ydym erioed wedi cael cyfieithiad o Star Wars i'r Gymraeg o'r blaen ac rwy mor ddiolchgar, ein bod wedi gallu gweithio gyda thalent anhygoel o Gymru i wireddu hynny, er mwyn dathlu ein pen-blwydd yn 50 oed. O'r diwedd bydd siaradwyr Cymraeg yn gallu mwynhau'r ffilm yn ein hiaith frodorol a fy ngobaith yw y bydd yn cael yr un effaith emosiynol â phe baech chi'n gwylio'r ffilm eto am y tro cyntaf."
Mae Cymru wedi chwarae rhan ers amser maith ym mhrosiectau Star Wars ac yng nghynyrchiadau Lucasfilm eraill yn y gorffennol, gyda’r llong ofod y Millennium Falcon maint llawn wedi'i adeiladu yn Noc Penfro ym 1979 ar gyfer Star Wars: The Empire Strikes Back, yn ogystal â golygfeydd o Willow gan Lucasfilm (y ffilm a'r gyfres) a Star Wars: The Acolyte a ffilmiwyd yno.
Ychwanegodd Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans: "Mae'r sêr yn bendant yn digleirio ar y prosiect hwn. Roeddem wrth ein bodd pan gysylltodd Lucasfilm â ni i bartneru ar gynhyrchu fersiwn Gymraeg o Star Wars: A New Hope. Mae'n ffilm mor eiconig i gymaint o genedlaethau o gefnogwyr ledled y byd, felly rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda nhw a Cymru Greadigol i wireddu'r uchelgais hon. Mae'n gyfle gwych i hyrwyddo'r Gymraeg a'n hactorion talentog ar lwyfan rhyngwladol. Mae hefyd yn ategu ein strategaeth i ehangu ein gwylio drwy gynnwys anhygoel a'n dymuniad i helpu i gynhyrchu ffilmiau sinematig yn Gymraeg."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru: "Roedd Star Wars yn un o ffilmiau mwyaf dylanwadol fy mhlentyndod ac nid yw ei apêl yn dangos unrhyw arwydd o bylu, gan swyno cynulleidfaoedd hyd heddiw.
"Mae gweld fersiwn Gymraeg o'r ffilm eiconig hon, gan ddefnyddio doniau rhai o'n hactorion gorau, yn wych. Rydym eisoes yn cynhyrchu teledu a ffilm o'r radd flaenaf yma yng Nghymru ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld Star Wars yn Gymraeg yn ddiweddarach eleni."



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.