Mewn cyfres deledu newydd sbon ar S4C, mi fydd y cyflwynydd Sarra Elgan a thîm o arbenigwyr yn trawsnewid chwe chartref yng Nghymru – nid gan gnocio waliau i lawr neu godi estyniadau, ond gyda newidiadau syml, creadigol ac effeithiol y gall gwylwyr roi cynnig arnynt gartref.

Dros chwe phennod wythnosol, mi fydd Taclo'r Tŷ yn gweld Sarra a’r criw yn dod i adnabod rhywun sy’n syrffedu ar annibendod, diffyg preifatrwydd neu olwg hen-ffasiwn eu cartref. Yna aiff y tîm ati i drawsnewid ystafelloedd gyda hacks syml, defnyddiol ac ymarferol, o ail-drefnu i storio ac addurno.

Ar ben hynny, mi fydd elfen bersonol i bob pennod, gyda Sarra yn mynd at wreiddiau emosiynol rhai o drafferthion ei gwestai, yn cynnwys arian, galar, iechyd a pherthnasau. Ar ddiwedd pob pennod felly gwelir trawsnewidiadau trawiadol yn y cartrefi, a hefyd rhai llai amlwg ym mywydau dydd-i-ddydd y perchnogion.

Ochr yn ochr â’r gyfres mi fydd S4C yn darparu llu o gynnwys digidol ar welliannau cartref, ar ei gyfrifon cyfyngau cymdeithasol.

Meddai Sarra: "Dwi wedi mwynhau bod yn rhan o'r gyfres 'ma gymaint oherwydd mae'n gyfle i ni glywed straeon sy'n berthnasol i gynifer ohonom ni heddiw. Yn yr hinsawdd sydd ohoni, dyw symud tŷ ddim yn opsiwn i lawer o bobl, felly mae'n bwysicach nag erioed bod ein cartrefi'n gweithio'n well i ni a'n ffordd o fyw.

“Wrth deithio ar draws y wlad, ni wedi gweld sut gall gofod sydd wedi'i esgeuluso neu sydd ddim yn cael ei ddefnyddio'n iawn ddechrau effeithio ar fywyd bob dydd, ar les pobl, ar eu hyder, ar fywyd teuluol ac ar y ffordd maen nhw'n byw yn eu cartrefi. Ond ry' ni hefyd wedi gweld pa mor drawsnewidiol gall y newidiadau cywir fod.

“Mae'r gyfres lot mwy na rhaglen adnewyddu cartrefi. Mae'n dangos sut gall y newidiadau cywir wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, gan greu cartrefi sy'n cefnogi eu hanghenion ac yn gwneud bywyd ychydig yn haws ac yn hapusach. Mae'r straeon rydyn ni wedi'u clywed a'r heriau rydyn ni wedi'u gweld yn rhai y gall llawer iawn ohonon ni uniaethu â nhw, sy'n gwneud y gyfres yn teimlo'n arbennig o berthnasol heddiw. Rydw i'n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o'r daith honno."

Meddai Beth Angell, Pennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol S4C: “Mae Taclo'r Tŷ yn profi nad oes angen cyllideb enfawr na gwaith adnewyddu mawr i drawsnewid cartref. Trwy gyfuno awgrymiadau ymarferol gyda straeon personol grymus, mae'r gyfres yn dangos sut y gall y newidiadau cywir wella nid yn unig y gofod o'n cwmpas, ond hefyd ein lles a'n bywydau bob dydd. Mae'n gyfres hynod berthnasol sy'n cynnig ysbrydoliaeth i’n bywydau bob dydd.”