MAE drysau Ty’n Llan yn Llandwrog, ger Caernarfon, wedi’u hagor unwaith eto yn dilyn ymgyrch dan arweiniad y gymuned i achub ac adfer tafarn hanesyddol y pentref.

Caeodd drysau’r dafarn nôl yn 2017, ar adeg pan oedd 18 tafarn yn cau bob wythnos ledled Prydain. Am sawl blwyddyn bu’r adeilad yn wag – yn gragen yng nghanol y pentref - nes i’r newyddion ledaenu yn 2021 fod bwriad i’w gwerthu. Yn fuan, fe ddatblygodd pryder lleol i fod yn ymgyrch gan y gymuned oedd yn benderfynol o’i phrynu a’i hadfywio.

“Roedden ni’n dod at ddiwedd y cyfnod clo, ac roedd pobl yn fwy ymwybodol nag erioed o bwysigrwydd cymuned a chysylltiad,” eglura Huw Jones, Trysorydd Menter Ty’n Llan, y fenter gymunedol sy’n gyfrifol am y prosiect. “Pan glywsom fod Ty’n Llan am gael ei rhoi ar y farchnad, roedd na deimlad fod na frys i wneud rhywbeth - doedd neb eisiau gweld y dafarn yn cael ei throi’n dŷ preifat, fyddai’n golygu ei cholli am byth.”

Galwyd cyfarfod cyhoeddus - dros Zoom, gan fod cyfyngiadau’r cyfnod clo dal ar waith ar y pryd - ac ymunodd dros 100 o drigolion, gan gadarnhau’r awch cryf lleol i weithredu. Symudodd pethau yn eu blaen yn gyflym, a gofynnwyd i bobl ymrwymo i roi benthyciadau tymor byr er mwyn iddynt allu gwneud cynnig cychwynnol, tra’n sefydlu cynllun cyfranddaliadau cymunedol i godi arian hirdymor.

Yr hen far
Yr hen far (Ty’n Llan)

Gyda chefnogaeth sefydliadau megis Plunkett UK a Cwmpas, lansiodd y gymuned apêl a ddenodd sylw’r wasg ledled Cymru a thu hwnt. “Dydyn ni ddim y pentref cyntaf i brynu tafarn, a’n sicr nid ni fydd yr olaf ond roedd yn stori gadarnhaol o gymuned yn dod at ei gilydd ar ôl cyfnod unig iawn i lawer,” meddai Huw. “Cynyddodd y momentwm yn gyflym tuag at ddiwedd yr apêl – a llwyddom i godi £465,200, oedd £65,200 yn fwy na’r targed.”

Aeth y pryniant yn ei flaen yn ddiweddarach yn 2021, ac erbyn Nadolig y flwyddyn honno, roedd y dafarn wedi ailagor fel ag yr oedd hi tra’r oedd gwaith adnewyddu hanfodol yn mynd rhagddo.

Nawr, ar ôl adeiladu estyniad a gwneud gwaith adnewyddu sylweddol, sy’n llawn dehongliadau o elfennau o dirwedd a threftadaeth leol, mae Ty’n Llan ar fin ail-agor yn llawn fel canolfan fodern i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Mae gan yr adeilad bellach bum ystafell wely foethus, cegin newydd sbon, bwyty modern gyda golygfeydd tuag at fynyddoedd yr Eifl, ac ystafell gymunedol bwrpasol. Yn yr ardd, mae gwt gwerthu ble gall trigolion y pentref brynu nwyddau sylfaenol fel llefrith a bara.

Penodwyd Swyddog Cymunedol hefyd, sy’n trefnu amrywiaeth o weithgareddau - o foreau coffi a grwpiau cerdded i glwb sgwrsio i ddysgwyr Cymraeg a grŵp ieuenctid. Mae’r fenter hefyd yn gweithio’n agos gyda’r ysgol gynradd leol.

Bu’r gwaith adnewyddu sylweddol hwn yn bosibl gyda chymorth grant sylweddol, gan gynnwys cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (SPF), Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac Arfor. Cyn hynny, cafwyd cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru (CFP), Cronfa Cyfleoedd Cymunedol Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

“Rydym wedi bod yn hynod lwcus o’r grantiau sydd wedi bod ar gael ac mae’r gefnogaeth gan y gymuned, o bob cwr o Gymru a thu hwnt, wedi bod yn hollbwysig,” ychwanega Huw. “Mae wedi bod yn anhygoel gweld pobl â sgiliau a phrofiadau mor amrywiol yn dod at ei gilydd er mwyn cyrraedd y nod.”

“Gall tafarn fel hon, sy’n ganolfan gymdeithasol i bawb, fod yn galon y gymuned, gan sicrhau mai nid casgliad o dai ydy pentref. Mae’n waith caled, ac mae’n cymryd amser, ond os oes gennych gymuned gref sy’n barod i gydweithio, gallwch chi lwyddo hefyd.”

Bydd y bwyty’n agor dydd Mercher, 26/11/25 gyda’r llety ar gael o’r 1/12/25. Bydd noson agoriadol yn cael ei chynnal 28/11/25, gyda chroeso cynnes i bawb.