BU farw Robat Gruffudd, sylfaenydd Y Lolfa a ffigwr a fu’n greiddiol i fywyd diwylliannol Cymru ers degawdau, yn 83 oed.

Ganwyd ef yn y Rhondda a’i fagu yn Abertawe cyn ymgartrefu yn Nhalybont ger Aberystwyth, lle sefydlodd Y Lolfa yn 1967.

O’r fenter honno tyfodd un o gyhoeddwyr pwysicaf Cymru, gan gyhoeddi miloedd o lyfrau a chylchgronau a chreu marchnad newydd i lenyddiaeth Gymraeg.

Mewn datganiad, dywedodd Y Lolfa: “Bore ddoe, yn dawel wedi cyfnod o salwch, bu farw sylfaenydd Y Lolfa, Robat Gruffudd.

“Heb ei weledigaeth a'i ysbryd chwyldroadol ac arloesol yn niwedd y 60au fydden ni ddim yma heddiw.

“Bu'n ymlafnio yn y wasg am bron i 60 mlynedd gyda'i weledigaeth a'i ddyfalbarhad yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Mae'n chwith hebddo.”

Cyn sefydlu’r wasg, astudiodd athroniaeth a seicoleg ym Mhrifysgol Bangor. Er iddo raddio yn 1964, gwrthododd dderbyn ei radd mewn protest yn erbyn yr hyn a ystyriai’n gefnogaeth annigonol i’r Gymraeg.

Roedd dychan a herio’r drefn yn rhan annatod o’i gymeriad cyhoeddus.

Yn 1965, sefydlodd gylchgrawn dychanol Lol gyda Penri Jones, ac o’r prosiect hwnnw y daeth yr ysbryd a arweiniodd at greu Y Lolfa ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Yn ei dyddiau cynnar, cyhoeddai’r wasg ddeunydd gwleidyddol ac ymgyrchol, gan adlewyrchu egni’r mudiad iaith a’r newid cymdeithasol oedd yn siapio Cymru’r cyfnod.

Dros amser, ehangodd Y Lolfa ei chyrhaeddiad ymhell y tu hwnt i wleidyddiaeth.

Cyhoeddodd lenyddiaeth, llyfrau plant, deunydd dysgu Cymraeg a gweithiau hiwmor, tra hefyd yn chwarae rhan bwysig ym myd y papurau bro.

Yn 2007, cydnabuwyd cyfraniad Robat Gruffudd i’r byd cyhoeddi gyda gwobr am gyfraniad oes gan Gyhoeddwyr Cymru.

Nid cyhoeddwr yn unig oedd ef. Roedd hefyd yn nofelydd, bardd ac awdur toreithiog.

Ymhlith ei weithiau mwyaf adnabyddus mae Y Llosgi ac Afallon, a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen.

Cyhoeddodd gyfrolau barddoniaeth, dyddiaduron a nofelau dros gyfnod o bron i hanner canrif, gyda’i nofel olaf, Gobaith Mawr y Ganrif, yn ymddangos yn 2024.

Yn ymateb i’r newyddion trist dywedodd yr ymgyrchydd iaith Gymaraeg, Ffred Ffransis: “Clywed y newyddion rŵan am golli Robat Gruffudd. Hyn ar ôl y newyddion am golli Gwilym Tudur ddwy flynedd yn ôl.

“Bydd miloedd eraill yn sylwi'n syth ar y golled i Gymru - pobl wnaeth fyw chwyldro'r 60au gan roi hwb i siopau llyfrau a ddaethant yn ganolfannau Cymraeg ac o ran creu gwasg Gymraeg ifanc a herfeiddiol.

“Er i'r Lolfa fod yn batrwm ac yn ysbrydoliaeth i eraill, mae'r cyfaredd yn dal yn perthyn i'r Lolfa fel y gwreiddiol o'i fath.”

Mab i Kate Bosse-Griffiths a J. Gwyn Griffiths oedd Robat Gruffudd, ac yn frawd i Heini Gruffudd.

Heddiw, mae ei etifeddiaeth yn parhau drwy Y Lolfa, sydd bellach yn nwylo ei feibion, Garmon a Lefi. Mae’n gadael ei wraig Enid, ei dri mab a phump o wyrion.